Byddwch angen chwaraewr cyfryngau sydd yn gallu chwarae ffeiliau Windows Media 9, er engraifft Windows Media Player. Mae chwaraewyr eraill ar gael ond nid oes sicrwydd y bydd rhain yn cefnogi ffeiliau isdeitlau (sami).
Gallwch ddadlwytho Windows Media Player yn rhad ac am ddim yma. Os ydych yn defnyddio Macintosh, mae Microsoft yn darparu Chwaraewr Windows Media hyd at fersiwn 9 yn unig. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma os ydych yn cael problemau.
Mae gwasanaeth S4C ar gael i'w wylio yn fyw ar y we yr un pryd a'r darllediad teledu. Darlledir y rhan fwyaf o'r rhaglenni yn fyw a bydd toriad yn y rhannau lle mae hysbysebion fel arfer. Yn ogystal, bydd y rhaglenni hyn ar gael yn ôl y galw.
Ni fydd pob rhaglen ar gael i’w gwylio ar y we oherwydd cyfyngiadau hawliau, ond fe ymdrechwn i gynnwys y rhan fwyaf o raglenni S4C yn y gwasanaeth 'gwylio yn fyw'.
Wedi agor Windows Media, symudwch y lygoden at y Ddewislen : File,View,Play,Tools, Help. Cliciwch ar y dde ar Play, ac wedyn dewiswch Captions a’r opsiwn Isdeitlau Cymraeg neu Saesneg (pan mae nhw ar gael).
Os ydych yn cael problemau derbyn yr isdeitlau, defnyddiwch y ffurflen ymateb.
Mae gwaharddiadau hawlfraint byd-eang yn ein gwahardd rhag dangos ein holl gynnwys y tu allan i'r DU. Y gobaith yw i ymestyn y gwasanaeth hwn yn y dyfodol i ehangu'r ddarpariaeth ar y we.
Mae gwybodaeth bellach ynglyn â defnyddio ein tudalennau gwylio yma.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales