Pobl leol yn mwynhau digwyddiadau S4C a gafodd eu cynnal yn yr ardal rhwng 19 a 26 Ebrill.

Iau 19 Ebrill – Noson yng Nghwmni Russell Jones – Clwb Golff Treforys 

Bu Russell yn sgwrsio am ei ieir a’r patsh ac hefyd roedd clybiau Merched y Wawr yr ardal wedi cynnal cystadleuaeth gwneud het iddo.

Yn fuddugol roedd Shirley Best a enillodd £100 er budd cangen Gorseinon.

Llun 23 Ebrill – Noson Sion a Siân – Clwb Rygbi Glanaman

Cafwyd noson llawn hwyl yng nghmwni cyflwynwyr y gyfres Stifyn Parri a Heledd Cynwal.

Roedd dau gwpl lleol yn cymryd rhan yn y noson oedd yn profi faint oedden nhw’n ei wybod am ei gilydd go iawn. Yn fuddugol roedd Llinos a JohnJamesa enillodd wobr o £100.

Mawrth 24 Ebrill – Cwis Dafarn Pobol y Cwm – Clwb Criced a Phêl-droed Ynystawe 

Emyr Wyn, sy’n chwarae rhan Dai Sgaffalde, oedd yn arwain y noson gwis. Yno hefyd roedd Llinor ap Gwynedd (Gwyneth Jones), Jonathan Nefydd (Colin Evans), Emily Tucker (Sioned Rees), Rhys Bidder (Macs White) a Catrin Mai Huw (Gemma Charles).

Dywedodd Emyr Wyn “Bydde Pobol y Cwm ddim mor llwyddiannus onibai am y gynulleidfa sydd wedi bod mor driw dros y blynyddoedd. Roedd cael mynd i gymuned glos fel Cwmtawe yn gyfle perffaith i ddiolch iddynt a chael tipyn o hwyl ar yr un pryd.”

Tîm Owain Rhys, 5 mlwydd oed o ysgol Gelli Onnen, a enillodd y wobr o £200 fel rhodd ar gyfer ‘Ward T’ Ysbyty Treforys. Hefyd, fe gododd y raffl elusennol £51 er budd yr ysbyty.

Iau 26 Ebrill – Noson Gwylwyr – Canolfan Celfyddydau Pontardawe

Daeth dros 90 o bobl leol i Ganolfan Celfyddydau Pontardawe i fod yn rhan o’r noson oedd yn gyfle i wylwyr leisio eu barn am raglenni a gwasanaethau S4C.

Y cyflwynydd Heledd Cynwal oedd yn arwain y noson ac roedd cyfle i’r bobl gwrdd agIanJones, Prif Weithredwr S4C;Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C;Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C a rhai o swyddogion eraill y Sianel.

Cafwyd hefyd adloniant gan Gôr Cefnogwyr y Gweilch.

Mae mwy am y digwyddiadau yn cynnwys lluniau a fideo ar safle S4C Cymunedol