Rydych chi wedi canmol Dewi Rhys am ei raglen O’r Galon: Taith Dewi ar nos Fercher 16 Mai. 

Roedd y rhaglen yn dilyn yr actor poblogaidd wrth iddo ddarganfod mwy am ei deulu gwaed, ac yntau wedi ei fabwysiadu pan oedd yn ifanc iawn. 

Gallwch ddarllen mwy am ei daith ar y wefan a’i gwylio unrhyw bryd ar Clic

Dyma rhai o’ch sylwadau chi am y rhaglen: 

  • Wedi mwynhau rhaglen O’r Galon heno hefo Dewi Rhys. Arbennig o dda.
  • O’r Galon gyda Dewi Rhys ar #S4C heno yn rhaglen arbennig iawn.
  • Da iawn Dewi Rhys, rhaglen ddewr i rannu gyda ni gyd. Cofio chwarae rygbi efo Dewi yn Ysgol Syr Hugh.
  • Da iawn @CwmniDa O’r Galon Taith Dewi neithiwr yn gynnil ac effeithiol iawn.
  • O’r Galon: Taith Dewi @S4Carlein. Un o’r rhaglenni dogfen orau i fi weld yn y Gymraeg ers sbel.

 

Mae cyfle eto i weld O’r Galon: Taith Dewi ar S4C nos Sul 22 Mai 10.00pm.

Gwefan   Clic