Mae dau o gyflwynwyr Stwnsh - Lois Cernyw a Tudur Phillips – yn cyflwyno rhaglenni S4C o’r Eisteddfod yr Urdd am y tro cyntaf eleni.
Gwyliwch Eisteddfod yr Urdd 2012 – y cystadlu, gweithgareddau a’r digwyddiadau – yn fyw ar S4C o 10 o’r gloch bob bore ar 4 i 9 Mehefin.
Wyt ti’n edrych ymlaen at gyflwyno o’r Urdd eleni?
Tudur: Dwi’n edrych ‘mlaen yn fawr! Bydd hi’n sialens newydd, gobeithio bydd hi’n wythnos sych!
Lois: Dwi di eisiau cyflwyno o’r Urdd ers blynyddoedd. Dwi’n cofio gwylio’r Eisteddfod hefo mam a’n chwaer a meddwl pa mor anhygoel fysa cael bod ynghanol y bwrlwm ac yng nghrombil y cystadlu drwy gydol yr wythnos.
Rydym ni wedi arfer eich gweld chi ar Stwnsh. Pa mor wahanol fydd cyflwyno o’r Urdd?
Tudur: Bydd y profiad yn hollol wahanol fi’n siŵr, achos byddwn ni’n gweithio gyda chriw gwahanol a bydda i’n cwrdd â phlant a phobl ifanc dros Gymru am y tro cynta’. Gobeitho bydd criw’r gogledd yn fy neall i’n siarad – fi’n dal i gal trwbl gyda Lois!
Lois: Y lleoliad fydd y newid mwyaf mae’n siŵr gan ein bod fel rheol yn cyflwyno o stiwdio neu o ysgol. Dros y blynyddoedd dwi wedi dod i nabod llond trol o ieuenctid Cymru felly bydd hi’n neis cal eu gweld nhw eto.
Oeddet ti’n hoffi cystadlu mewn Eisteddfodau pan roeddet ti’n blentyn?
Tudur: Ro’dd wythnos yr Eisteddfod yn fishi iawn, lle bydde ni’n cystadlu mewn hyd at ddeg cystadleuaeth bob blwyddyn – oni bai am ambell flwyddyn pan roedd arholiadau, pan roedd mam a dad yn beirniadu neu pan wnes i dorri pont yr ysgwydd! Aw!
Lois: Oni’n caru cystadlu yn yr Eisteddfod. Bues i’n lwcus i gael llwyddiant mewn cystadlaethau llefaru o’r flwyddyn 1992 tan oni’n 15. Mae’r Urdd wedi bod yn rhan annatod o’m mywyd i.
Ydi’r cyfle i berfformio ar lwyfan yn ifanc wedi helpu gyda dy swydd heddiw?
Tudur: Do, 100%. Heb yr Eisteddfod bydde ni ddim le i fi nawr! Ma’ bod ar lwyfan yn gofyn am lot o hyder, a fi di joio teimlo’r adrenalin o sefyll ar lwyfan yn barod i berfformio… sy’ dal yn wir pan ry’ ni’n ffilmio yn fyw ar Stwnsh.
Lois: Heb os nac oni bai. Mae wedi rhoi’r llwyfan i mi ddatblygu fel perfformiwr. Er bod cyflwyno yn reit wahanol i berfformio ar lwyfan ma’r sgiliau a’r hyder sydd ei angen yn reit debyg. Mi fyswn i’n annog unrhyw blentyn neu berson ifanc i gystadlu.
Pa atgofion sydd gen ti o fod ar y maes?
Tudur: Rhedeg o un rhagbrawf i’r llall, bod yn hwyr i’r llwyfan, glaw ych-a-fi, mynd i’r ffair a theimlo’n dost ar ôl bod ar y waltzers am rhy hir. Dwi’n cofio unwaith fy chwaer fach (Lleucu) yn mynd ar goll a phawb yn chwilio amdani! Hefyd, dwi’n cofio casglu tua 10 crys t Radio Cymru ryw flwyddyn!
Lois: Oni’n caru mynd i’r Eisteddfod. Bwrlwm y cystadlu, y fferins, y ffair, y stondinau, y sioeau amrywiol o amgylch y maes ac wrth gwrs y freebies!
Ydi’r Urdd yn ddigwyddiad wyt ti’n dal i edrych ymlaen ato?
Tudur: Rwy’ bob tro yn edrych ‘mlaen i’r Urdd, yn enwedig fel cyflwynydd teledu plant, mae’n gyfle i ni gwrdd â channoedd o blant, rhai sy’ di bod yn cymryd rhan ar y teledu mewn rhyw ffordd, rhai yn wynebau ni’n gweld bob blwyddyn a chyfle i gwrdd â rhai am y tro cynta’.
Lois: Mae’r Urdd yn fy nyddiadur hefo sêr anferthol o’i amgylch bob blwyddyn. Fel cyflwynydd Stwnsh ma’n golygu ein bod ym mhabell S4C yn cynnal sioeau gwahanol ac yn cwrdd â’r gwylwyr. Fydd eleni ychydig yn wahanol ond dal yn anhygoel dwi’n siŵr.
