Rhwng 25 a 30 Mehefin, bydd cyfres arbennig Y Sipsiwn yn dilyn Ifan Jones Evans a Shân Cothi ar daith yng ngorllewin Cymru gan ddilyn ôl traed Sipsiwn Romani Cymru. 

Maen nhw’n dechrau yn Llangrannog gan alw yn Aberteifi, Castell Newydd Emlyn, Crymych, Trefdraeth ac Abergwaun cyn gorffen yn Rosebush ar 30 Mehefin. 

Bob nos, byddan nhw’n cynnal cyfres o ddigwyddiadau yn rhad ac am ddim i chi gael bod yn rhan o’r daith. 

 

Llun 25 Mehefin 6.30pm – Aberteifi

Noson Fwyd ac Adloniant yn Neuadd y Dref. Cerddoriaeth Jazz Sipsiaidd a pherfformiad gan Blant Gŵyl Fawr Aberteifi. Hefyd stondinau o gynnyrch bwyd lleol.  

 

Mawrth 26 Mehefin 6.15pm – Castell Newydd Emlyn

Beirdd a Barddoniaeth yn Neuadd Emlyn. Noson o farddoniaeth mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth Cymru.

 

Mercher 27 Mehefin 6.30pm – Crymych

Cystadleuaeth ‘Mabolgiamocs’ yng Nghlwb Rygbi Crymych. Pedwar tîm lleol yn cystadlu mewn Mabolgiamocs. Hefyd, adloniant gan Gôr Meibion Clwb Rygbi Crymych ac mae bwyd a diod ar werth.

 

Iau 28 Mehefin 7.30pm – Trefdraeth

Parti ger y traeth yng Nghlwb Cychod Trefdraeth. Adloniant am ddim gan Randwm a Lowri Evans. Bwyd a diod ar werth. 

 

Gwener 29 Mehefin 6.30pm – Abergwaun

Twmpath a Dawnsio Sipsi yn Ysgol Glannau Gwaun. Twmpath ac arddangosfa gan Ddawnswyr Aelwyd Hafodwenog. Bwyd a diod ar gael.

 

Sadwrn 30 Mehefin 4.30pm –Rosebush

Hwyl yn Nhafarn Sinc. Dathlu diwedd y daith gydag adloniant gan Billy Thompson a’i fand, Robin Bowen a’r Delyn Deires a Dawnswyr Talog. Bwyd a diod ar gael.

 

Gwyliwch Y Sipsiwn bob nos rhwng 25 a 30 Mehefin

Rhaglen ragflas ar nos Iau 21 Mehefin

Darllenwch mwy am Y Sipsiwn