Ar dydd Sadwrn 16 Mehefin mae’r gyfres Rasus yn ôl ar S4C gyda darllediad byw o Dairgwaith yn dechrau am 5.00 y prynhawn tan 9.00 yr hwyr.
Yn ymuno ag Ifan Jones Evans a Dot Davies eleni bydd y pencampwr rasio harnais Megan Taff fydd yn sylwebu ar y rasio gydag Wyn Gruffydd a Raymond Jenkins.
“Mae’n fraint bod tîm Rasus wedi gofyn i mi ymuno â nhw,” meddai’r rasiwr harnais profiadol o Langernyw, ger Abergele.
“Mi fydd yn her. Mae sylwebu yn dipyn o gamp a does gen i ddim profiad i fod yn onest!
Yr unig beth alla i wneud ydi siarad am geffylau, gyrwyr a thactegau rasio am hir. Dwi’n gobeithio y bydd Wyn yn fy llywio i’r cyfeiriad iawn.”
Er bod Megan wedi ymddeol o rasio ers dwy flynedd bellach, mae hi’n dal i fynychu pob ras a’r cysylltiad â’r gamp ynparhau yn gryf.
“Dwi wastad wedi mynd i’r rasus efo rhywbeth i’w wneud, sef cystadlu, ond ers dwy flynedd dwi wedi teimlo’n chwithig yn mynd i wneud dim ond ista a gwylio. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i gael mynd i’r rasus a chael teimlo’n rhan o’r digwyddiad unwaith eto.”
Bydd Rasus eleni yn darlledu yn fyw o bedwar prif ddigwyddiad mwya’r calendr rasio yng Nghymru. Mae Megan yn edrych ymlaen at bob un o’r digwyddiadau:
16 Mehefin – Tairgwaith
Uchafbwynt rasus Tairgwaith yw Cwpan Cymru – ras ar gyfer aelodau Cymdeithas Rasio Cymru a’r Gorllewin, sy’n ymddiddori yn y gamp fel hobi yn bennaf.
“Bydda i’n gweld hen ffrindiau yn cystadlu yn y ras yma bob blwyddyn. Dyma gyfle i’r Cymry ennill ar eu tir eu hunain ac mae’n rhoi siawns i fois y werin gael ennill rhywbeth o flaen y camerâu,” meddai Megan.
7 Gorffennaf – Ceredigion
Yn cynnwys Ffeinal Clasur Ceredigion.
Dywedodd Megan, “Mae Ceredigion wedi dod yn rhywle mae rhywun wir eisiau ennill. Mae’n drac ychydig yn wahanol gyda gorffeniad hir ac i fyny’r allt. Mae angen ceffylau ffit iawn i ennill, a rhai sy’n gallu perfformio tan y diwedd.”
21 Gorffennaf – Tir Prince
Rhagras a Ffeinal Crochan Aur S4C. Mae Megan yn credu bod awyrgylch arbennig i’r rasio yma.
“Mae’r trac yma yn wahanol o gymharu â’r rasus porfa ac mae’r cyffro yn edrych mor dda o dan y goleuadau,” meddai Megan.
“Fan hyn gwelwch chi’r ceffylau cyflymaf. Y Crochan Aur yw pinacl gyrfa ceffyl yn y wlad yma, ac os ydych chi’n ennill hon yna mae cyfle da i fynd ymlaen a chystadlu dramor. Mae’r ceffyl wnaeth ennill y llynedd Laneside Lexus bellach yn rasio ynAmericaac wedi ennill dros £100,000 o wobrau yn barod.”
25 a 26 Awst – Tregaron
Rhagrasys a Ffeinal Clasur Cymru. Mae’r digwyddiad yn llawer mwy na rasio yn unig, meddai Megan.
“Fe gewch chi’r croeso gorau yn Nhregaron. Mae teimlad cartrefol yno a phawb yn gweiddi amdanoch chi i wneud eich gorau. Mae awyrgylch yma na chewch chi yn unlle arall ac mae pobl yn dod yma hyd yn oed os nad ydyn nhw’n rasio. Mae’n le da i gwrdd ac i gymdeithasu gyda phobl sydd â’r un angerdd am rasio.”
Ras am Rif
Cofiwch gofrestru am y cyfle i ennill £500 yn y gystadleuaeth Ras am Rif. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Rasus: Tairgwaith, YN FYW Sadwrn 16 Mehefin 5.00pm – 9.00pm
