Mae Cwpan Twenty20 Friends Life nôl ar S4C ar ddydd Sul 17 Mehefin 5.15pm.
Bydd camerau S4C yn Stadiwm Swalec i gyflwyno cyffro gêm Dreigiau Cymru v Swydd Warwick yn fyw.
Yn ymuno â’r cyflwynydd Rhodri Davies mae’r sylwebwyr a’r dilynwyr criced brwd Huw Llywelyn Davies, John Hardy ac Alun Wyn Bevan. Tra bod cyn-chwaraewr Morgannwg Alan Jones, y dyfarnwr Jeff Evans a’r prifardd Ceri Wyn Jones hefyd yn ymuno yn yr hwyl.
Ymunwch â’r trafod yn ystod y rhaglen ar Twitter @criceds4c
Y sylwebydd John Hardy sy’n edrych ymlaen at y frwydr:
Beth, yn eich barn chi, yw apêl y gystadleuaeth ugain pelawd?
Yr hyn sydd mor arbennig am gemau ugain pelawd yw’r cyffro. Gallwch chi ddim rhagdybio beth fydd yn digwydd – yn sicr gall un belawd neu un chwaraewr newid y gêm mewn amrantiad.
Mae’n gystadleuaeth sy’n rhoi blas o griced i bobl sydd efallai heb wylio o’r blaen. Mae yna gymaint o wahanol fathau o gystadlaethau criced – mae’r T20 yn cwmpasu’r un gêm mewn cyfnod byr o amser.
Gan gofio mai un gêm yn unig mae’r Dreigiau wedi ennill hyd yn hyn yn y tymor, sut ydych chi’n gweld nhw’n gwneud yn y gystadleuaeth?
Bydd dechrau’n ffres mewn cystadleuaeth newydd yn siwtio’r Dreigiau i’r dim. Gall rhediad da yn y gystadleuaeth Twenty20 newid eu tymor am y gorau ar ôl dechrau siomedig iawn a’r hyfforddwr Matthew Mott heb fuddugoliaeth eto yn Stadiwm Swalec.
Mae angen rhywbeth i danio’r tîm ac i danio’r cefnogwyr. Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod o drawsnewid yng nghlwb criced Morgannwg ac erbyn hyn maent yn chwilio am yr un sbarc i newid tymor a dod a llwyddiant i’r clwb.
Gobeithio bydd y sbarc yna’n tanio o flaen ein camerâu ni ar S4C.
Beth sydd angen nawr iddynt drawsnewid eu tymor?
Wrth edrych ar y dalent sydd ganddyn nhw, perfformiad da gan ddau neu dri o chwaraewyr, dyna sydd angen. Mae Marcus North a Martin van Jaarsveld yn fath o gricedwyr sy’n gallu creu argraff yn y gemau ugain pelawd ac mae eu gemau nhw yn siwtio’r math yma o chwarae.
Posib gallent greu cyffro o ran y sylwebwyr a thanio’r cefnogwyr yn Stadiwm Swalec.
Mae modd gwylio uchafbwyntiau pob gêm ugain pelawd Dreigiau Cymru ar wefan Criced.
Criced: Dreigiau Cymru v Swydd Warwick, Dydd Sul 17 Mehefin 5.15pm
