Dal ‘mlaen yn dynn! Mae TAG yn ein tywys ar daith llawn cyffro ac adrenalin dros yr wythnosau nesaf yn ymweld ag amryw o barciau antur ar hyd a lled y Deyrnas Unedig. 

Y cyflwynwyr Geraint Hardy ac Elin Llwyd fydd yn profi’r reids, y bwyd a’r siop swfenîrs yn y rhaglen gylchgrawn bob nos Wener am 5.40pm. 

Pa mor dda ydi’r Pleasure Beach yn Blackpool? Ai Alton Towers neu Drayton Manor sydd orau? Sut mae Oakwood yn cymharu gyda pharciau antur Lloegr? 

Cofiwch wylio TAG bob nos Wener am gipolwg tu ôl i’r llenni o’r pedwar parc antur.

Gwefan   Clic