Yr wythnos hon ar Pobol y Cwm, mae hen fwgan yn dychwelyd i’r Cwm gan orfodi Macs i ail fyw cyfnod tywyll iawn yn ei orffennol. 

Flwyddyn ar ôl iddo ymosod yn erchyll ar Macs, mae Scott yn ôl yng Nghwmderi, gydag Izzy ar ei fraich a modrwy ddyweddïo ar ei bys. 

Beth fydd yn digwydd wrth i’r ddau ddod wyneb yn wyneb? Yn trafod y sefyllfa mae’r actor Rhys Bidder, o’r Crwys ger Abertawe, sy’n chwarae rhan Macs White. 

Pa effaith mae gweld Scott yn ei chael ar Macs?  

Ers blwyddyn, mae Macs wedi bod yn trio dod dros yr hyn ddigwyddodd iddo. Ond mae lot wedi digwydd yn ystod y flwyddyn ac mae fel pe bai Macs wedi cloi’r holl beth mewn caets yn ei ben. Mae gweld Scott yn datgloi’r clo ac yn gadael i bopeth lifo yn ôl. 

Sut mae Macs yn teimlo o weld Izzy gyda Scott?  

Mae’n sefyllfa mor gymhleth. Ar ben trawma’r ymosodiad mae e hefyd yn delio gydag euogrwydd am y ffordd wnaeth e drin Izzy flwyddyn yn gynharach. Mae gweld hi gyda’r dyn wnaeth ei dreisio ef yn cymhlethu pethau ymhellach. 

Ydi Macs yn teimlo annhegwch am fod Scott wedi diflannu yn syth ar ôl yr ymosodiad? 

Mae ganddo lot o gwestiynau a chafodd e ddim cyfle i’w gofyn nhw. Y prif beth wrth gwrs yw pam wnaeth Scott ymosodarno? 

Beth mae Macs eisiau nawr bod Scott yn ôl?  

Mae Macs ishe tystiolaeth am yr hyn ddigwyddodd iddo. Dyw e ddim ishe mynd at yr heddlu achos dyw e ddim ishe gorfod mynd drwy achos llys. Drwy gael tystiolaeth, bydd e’n cael y pŵer er mwyn cael beth mae e moyn, sef gorfodi Scott i adael am byth. 

Mae e hefyd ishe i Scott ddioddef drwy chwalu ei hapusrwydd, ond mae’n anodd achos dyw e ddim am weld Izzy yn dioddef. 

A fydd Macs yn gallu dianc rhag yr hyn ddigwyddodd?  

Gyda rhywbeth fel hyn, er bod pethau’n gallu dod yn well, dwyt ti byth yn gwella yn llwyr nac yn dianc rhag beth sydd wedi digwydd. Mae’r ymosodiad yn mynd i fod gyda fe am byth ac er bod gweld Scott yn ôl yn y Cwm yn cloi’r stori mewn ffordd, bydd y bennod hon o’i fywyd yn effeithio arno am byth. 

Buaswn i’n hoffi gweld hapusrwydd i Macs ac efallai ei weld e’n priodi Sioned. Ond, fel actor, dwi ddim ishe iddi fod yn hir nes bydd stori fawr arall. 

Pa mor anodd fuodd actio’r stori yma?  

Mae’r stori yn un anodd, ond fel actor mae’n dda cael stori sydd yn dy herio di. Dwi’n mwynhau gwneud storïau anodd, mae’n well na threulio dydd ar ôl dydd yn ffilmio golygfeydd yn yfed paned yn y caffi!

 

Pobol y Cwm, Llun i Gwener 8.00pm

Gwyliwch unrhyw bryd ar Clic, neu mae cyfle arall am 6.30pm/6.35pm yn ystod yr wythnos, ac omnibws bob dydd Sul.

Gwefan   Clic   Facebook