Ar 21 a 22 Mehefin, bydd Emyr Penlan yn ymgymryd â her newydd pan fydd y cystadlu mewn ras beiciau modur am y tro cyntaf erioed. 

Mae Emyr wedi cyflwyno campau moduro o bob math ar y gyfres Ralio+ ers 2004, ond nawr, ac yntau’n 42 mlwydd oed, mae e am fentro rhoi cynnig arni ei hun. 

Ar ddydd Iau a Gwener, 21 a 22 Mehefin, bydd yn cystadlu yn yr Endiwro Dau Ddiwrnod Cymru yn Llandrindod. 

“Howard Davies, fy nghyd gyflwynydd, sydd wedi gosod yr her i mi a dwi wedi bod yn ymarfer ers dechrau’r flwyddyn,” meddai Emyr. 

“Ond mae e’n rhywbeth dwi wedi eisiau ei wneud ers tro ac rwy’n gobeithio y gwneith e ddatblygu i fod yn fwy o hobi. Dwi wrth fy modd yn mynd mas i ymarfer ar y penwythnosau.” 

Ras traws gwlad ar gefn beic modur yw’r Endiwro, ac rydych yn cystadlu yn erbyn y cloc. Fel nofis bydd angen i Emyr gadw o fewn awr y tu ôl i’r reidwyr proffesiynol, neu fe fydd yn colli ei le yn y ras. 

“Yr her yw gorffen y ras. Does dim ots gen i ba safle bydda i, ond mod i’n gallu gorffen,” meddai Emyr.

“Os bydda i’n falch o’r canlyniad eleni, falle af i ‘mlaen i wneud rhywbeth arall flwyddyn nesa.” 

Mae her Emyr yn cael ei ffilmio, ynghyd a digwyddiadau eraill y Endiwro Dau Ddiwrnod Cymru, ar gyfer y gyfres newydd o Ralio+ fydd ymlaen ym mis Awst. 

Bydd sylw hefyd i’r diweddaraf o brif bencampwriaethau ralïo’r byd y WRC, IRC, BRC heb anghofio Rali Cymru GB.

Hefyd, campau gwallgof, ar ddwy a phedair olwyn, ym mhob rhan o Gymru – yn cynnwys Rasio Glas, ralïau lleol a threialon beiciau modur. 

Gwyliwch raglen arbennig o Ralio+ o’r rasus TT yn Ynys Manaw ar Clic. 

Bydd cyfres newydd o Ralio+ ym mis Awst 

Gwefan   Clic