Cystadleuaeth wedi cau

Mae TAG yn cynnig cyfle arbennig i berfformwyr ifanc rhwng 10 ac 18 oed. 

Gwobr anhygoel cystadleuaeth ddiweddaraf y rhaglen yw lle yn yr ysgol berfformio ‘West End in Wales’ sy’n cael ei redeg yn ystod yr haf gan y seren sioeau cerdd Mark Evans. 

Er mwyn cystadlu anfona glip fideo munud o hyd o dy hun yn perfformio – canu, actio, dawnsio, dweud jôcs – gan ddangos dy bersonoliaeth. 

Anfona’r clip at tag@s4c.co.uk erbyn y dyddiad cau ar 6 Gorffennaf. 

Mae rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth ar y wefan. 

Gwylia TAG yn fyw bob prynhawn Gwener wrth i Geraint ac Elin ddechrau’r penwythnos mewn steil. Yn ogystal â chystadlaethau gwych, mae TAG yn trafod chwaraeon, ffasiwn, ffilmiau, selebs, gajets, cerddoriaeth ac yn sgwrsio â gwesteion arbennig yn y stiwdio. 

Gwefan   Clic