Bydd rhai wynebau cyfarwydd o S4C yn mynd i Ffair Tafwyl yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn 23 Mehefin. 

Mae’r ffair yn cael ei chynnal yng Nghastell Caerdydd ac mae mynediad yn rhad ac am ddim. Mae’r ffair yn un o nifer o ddigwyddiadau yn ystod wythnos Tafwyl – Gŵyl Gymraeg Caerdydd. 

 

Pabell Dysgwyr

Dewch i gwrdd â Lucie Jones ac Wynne Evans wrth iddyn nhw ateb eich cwestiynau am y profiad o ddysgu Cymraeg ar y gyfres cariad@iaith:love4language

Mae Hwb yno hefyd ac yn cynnig cyfle cyffrous i chi greu blog fideo ar gyfer y gyfres. 

 

 

Cyw a’i ffrindiau

Bydd digon o weithgareddau i ddiddanu plant yn y ffair ac mae Sali Mali, Sam Tân, Norman Preis, Holi Hannah a Cyw yn mynd i fod yno i ddweud helo. 

 

Stwnsh

Bydd Lois ac Owain yno hefyd gyda digon o hwyl a gemau gwirion! 

 

 

Tafwyl ar y Teledu

Morgan Jones a Mari Grug sydd yno ar ran S4C yn ffilmio rhaglen arbennig o oreuon Tafwyl.

Cadwa dy lygad ar y camerâu – fe alli di fod ar y teledu! 

Bydd y rhaglen Tafwyl/12: Digwyddiadau ymlaen ar nos Sul 1 Gorffennaf 8.00pm 

 

Ewch i wefan Tafwyl i weld holl weithgareddau’r ŵyl, sy’n cynnwys cerddoriaeth, gweithdai celf, stondinau, chwaraeon a llawer iawn mwy.