I ddechrau Tymor Y Sipsiwn ar S4C, roedd cyfle ar nos Sul 17 Mehefin i fwynhau’r ffilm sy’n addasiad o lyfr T. Llew Jones – Tân ar y Comin

Roedd llawer ohonoch chi yn falch o’r cyfle i weld yr hen glasur eto, ac mae’n dal ar gael i’w gwylio unrhyw bryd ar Clic. 

  • Joio Tân ar y Comin #FfilmiauCymraeg
  • Tân ar y Comin achan #classic
  • Tân ar y Comin… superb chware teg, fel star wars, black beauty, snatch a gladiator in one!
  • Tân ar y Comin ar S4C… shame they don’t do things like this no more.
  • Un o glasuron S4C arno efo Tân ar y Comin. Rhwyddach gwylo’r rhaglen na hala amser yn darllen llyfr T. Llew #tanarycomin
  • Tân ar y Comin… Un o’r ffilmie prin allen i wylio dro ar ôl tro.
  • Mwynhau gwylio Tân ar y Comin. Ac mae gweld Edward Woodward (Wicker Man) mewn ffilm Cymraeg yn wych! 

Gwyliwch Tân ar y Comin eto ar Clic 

 

Y Sipsiwn 

Rhwng 25 a 30 Mehefin, bydd Ifan Jones Evans a Shân Cothi yn mynd ar daith mewn carafán sipsiwn o amgylch gorllewin Cymru. 

Mae’r cyfan yn dechrau gyda rhaglen rhagflas ar nos Iau 21 Mehefin 8.25pm. 

Yna dilynwch eu taith o Langrannog i Rosebush bob nos o nos Lun 25 Mehefin i nos Sadwrn 30 Mehefin. 

Mwy am gyfres deledu Y Sipsiwn 

 

Digwyddiadau am ddim 

Dewch i ymuno yn y daith mewn cyfres o ddigwyddiadau rhad ac am ddim ar hyd y llwybr. 

Mwy o wybodaeth am y digwyddiadau 

 

Roedd Tân ar y Comin yn ddechrau ar gyfres sy’n cynnwys rhaglenni dogfen am hanes y Sipsiwn yng Nghymru, cipolwg ar fywyd presennol cymdeithas y Sipsiwn Romani yng Nghymru a rhaglen am gerddoriaeth Sipsiwn Romani.  

Yn ogystal bydd cyfle i weld y ffilm Eldra a seilir ar fywyd cynnar Eldra Jarman. 

Y Sipsiwn   Digwyddiadau   Clic