Ar nos Fercher a nos Iau 20 a 21 Mehefin, bydd gwefan S4C yn dangos y perfformiad cyntaf yn Ewrop o gynhyrchiad Mandela Trilogy gan Cwmni Opera Cape Town.
Mae’r opera wedi ei seilio ar fywyd y gwladweinydd Nelson Mandela a bydd y gwe-ddarllediad ar gael yn fyw ac yn fyd-eang o 7.30pm ymlaen.
Mae’r opera yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yn Ewrop yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar nos Fercher a nos Iau 20 a 21 Mehefin.
Bydd modd gwylio’r opera hefyd ar S4C yn y rhaglen Trioleg Mandela nos Sul, 24 Mehefin 8.00pm.
Mae’r opera’n dilyn bywyd hynod Nelson Mandela, o fod yn garcharor i ddod yn arlywydd De Affrica. Mae wedi ei gosod mewn tair rhan gyferbyniol sy’n dangos magwraeth draddodiadol Mandela yn ardal yr Eastern Cape, awyrgylch gythryblus y trefgorddau ar ddechrau Apartheid ac, yn olaf, blynyddoedd maith Mandela dan glo.
Mae’r cynhyrchiad yn defnyddio nifer o wahanol steiliau cerddorol ac yn cynnwys cast o fwy na 40 o berfformwyr i adrodd stori un o ffigyrau mwyaf eiconig y byd heddiw.
Trioleg Mandela
Yn fyw ar wefan S4C nos Fercher a nos Iau 20 a 21 Mehefin, 7.30pm.
Ar S4C nos Sul 24 Mehefin 8.00pm
