Mae Scott yn ôl yng Nghwmderi, flwyddyn ar ôl iddo dreisio Macs.
Mae e wedi dyweddïo â Izzy ac maen nhw’n trefnuparti dathlu yn y Deri. Mae e’n edrych i’r dyfodol ac at fywyd priodasol hapus. Ond er mwyn gallu symud ymlaen, mae’n rhaid iddo wynebu Macs a chael cosb am yr hyn wnaeth e.
Ym mhennod nos Fawrth, am 8.00pm, mae’r stori yn cyrraedd uchafbwynt treisgar wrth i Scott a Macs ddod wyneb yn wyneb – ac mae Macs yn dyrnu Scott nes ei fod yn anymwybodol.
Mae Scott eisiau cosb a maddeuant ond mae Macs yn chwilio am dystiolaeth a chyfiawnder – pwy fydd yn cael ei ffordd? A fydd Scott yn gorfod ffoi unwaith eto – ac a fydd e’n gadael ar ei ben ei hun?
Mae’r actor Alex Harries, o Frynaman, sy’n chwarae rhan Scott Lewis yn sôn am y stori lawn tensiwn.
Oedd Scott eisiau dod yn ôl i Gwmderi, neu ddod er mwyn Izzy wnaeth e?
Roedd e moyn dod yn ôl. Fi’n credu bod Scott ishe gwneud penyd ac mae e ishe cosb am beth wnaeth e i Macs.
Ar ôl cwrdd ag Izzy wrth deithio, ac yn enwedig ar ôl iddyn nhw ddyweddïo, roedd e’n gwybod y byddai’n rhaid iddo ddod ‘nôl i’w Cwm rhywbryd a wynebu yr hyn ddigwyddodd.
Hefyd, pan adawodd Scott y tro cynta’, roedd gyda fe ryw fath o fixation gyda Macs. Roedd elfen ohono hefyd yn ymladd yn erbyn ei rywioldeb. Fi’n credu, wrth ddod nôl i’r Cwm, ei fod e ishe gwybod sut bydd e’n teimlo wrth weld Macs unwaith eto.
Ydi Scott wir yn credu y caiff e faddeuant?
Mae e’n credu mewn rhyw ffordd ddryslyd os yw e’n gwneud penyd yna gall e gario ‘mlaen â’i fywyd a byw yn hapus gyda Izzy.
Mae e’n dweud ei fod e wedi bod drwy uffern yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ond fi’n credu ei fod e’n clutching at straws i gredu y gall dod adre’ roi closure iddo fe. Mae e’n eitha’ desperate byddwn i’n dweud.
All e ddim mynd drwy weddill ei fywyd heb gael ei gosbi, ond mae e am ddewis pryd, ac ar ei delerau eihunan.
Felly yn yr olygfa lle mae’r ddau yn ymladd, mae Scott eisiau i Macs ei gosbi gyda’i ddyrnau? Oedd yr olygfa honno yn anodd ei actio?
Yn yr olygfa honno, roedd e’n hawdd deall cymhelliad Scott. Yr olygfa oedd yn fwy anodd ei actio oedd yr un ddaeth yn syth wedyn, lle mae Scott yn gorfod dweud y gwir wrth Izzy. Roedd honno yn galetach o ran emosiwn ac yn gymaint fwy cymhleth dychmygu sut roedd e’n teimlo wrth ddweud y gwirionedd erchyll wrth y person agosaf ato.
Beth wyt ti’n credu fydd yn digwydd i Scott yn y dyfodol?
Mae wedi bod yn neis bod ‘nôl gyda’r cast a chael dod nôl ar gyfer stori mor dda. Byddai wedi bod yn siom i ddod ‘nôl heb reswm digonol.
Mae e lan i’r awduron wrth gwrs, ond fi’n joio chwarae’r rhan ac mae’n neis cael chwarae cymeriad sydd ddim yn straight forward. Gawn ni weld beth allan nhw wneud ag e yn y dyfodol. Pwy a ŵyr?
Pobol y Cwm, Llun i Gwener 8.00pm
Gwyliwch unrhyw bryd ar Clic, neu mae cyfle arall am 6.30pm/6.35pm yn ystod yr wythnos, ac omnibws bob dydd Sul
