
Ben Thomas, disgybl 11 oed yn Ysgol Gymraeg Rhydaman, sydd yn lleisio prif gymeriad cartŵn newydd ar S4C, Ben 10.
Mae Ben 10 yn dilyn anturiaethau cyffrous Ben Degwel – bachgen 10 mlwydd oed sy’n darganfod dyfais arallfydol ac sy’n mabwysiadu pwerau deg estron, a hynny am ddeg munud bob tro.
Wrth iddo ddysgu sut i reoli ei bwerau newydd, mae’n penderfynu eu defnyddio nhw i ymladd yn erbyn drwg. Pan mae pethau’n mynd o chwith iddo, mae ei ddadcu Macs a’i gyfnither Gwen yno i helpu.
Meddai Janet Aethwy, cynhyrchydd y gyfres, “Yn syth roedd llais a chymeriad Ben Thomas yn gweddu’n berffaith ar gyfer ein Ben 10 ni. Mae’r egni a’r brwdfrydedd yn ei lais yn amhrisiadwy, sy’n elfennau hanfodol i leisio’r fath gymeriad.”
Nid dyma’r tro cyntaf i Ben leisio rhaglenni plant. Yn 8 oed, cafodd gyfle i leisio Wibli Sochyn y Mochyn ar Cyw.
Mae Ben 10 dechrau ar Stwnsh ar 23 Gorffennaf
