Mae S4C yn galw ar gorau o bob cwr o Gymru – a thu hwnt – i ymgeisio yng nghystadleuaeth Côr Cymru 2013 fydd yn cael ei chynnal yn Aberystwyth ym mis Ebrill, 2013. 

Mae manylion ac amodau llawn y gystadleuaeth ar wefan Côr Cymru 2013 

Y dyddiad cau yw dydd Llun 1 Hydref, 2012, a bydd y corau yn cael eu rhannu i bum categori gwahanol – Plant, Ieuenctid, Merched, Meibion a Chymysg. 

Dywedodd Hefin Owen, o gwmni Rondo sy’n cynhyrchu’r rhaglenni i S4C, “Rydym yn edrych ymlaen at gynnal cystadleuaeth Côr Cymru unwaith eto. Mae’n ddigwyddiad sydd wedi ennill ei blwy yn y calendr corawl ac yn anrhydedd sydd wir yn uchelgais i gorau ei hennill.” 

Bydd pob côr sy’n cyrraedd y rowndiau cynderfynol yn derbyn gwobr o £500 yr un. Mae gwobr o £500 pellach i enillydd pob categori, a bydd y corau hynny yn mynd ymlaen i gystadlu am wobr o £4000 yn y rownd derfynol ar 14 Ebrill. 

Dyma fydd y chweched tro i S4C gynnal y gystadleuaeth, sy’n digwydd bob dwy flynedd. Côr Cywair, côr cymysg o Gastell Newydd Emlyn, ddaeth i’r brig yn 2011. 

Gwefan   Darllen mwy