Yn rhan o’i baratoadau cyn cyflwyno o Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen ar ran S4C, bu Wyn Davies ar daith i Dde Affrica i gwrdd â rhai o’r corau fydd yn cymryd rhan. 

Treuliodd Wyn, sy’n aelod o gôr Only Men Aloud, bron bythefnos yn y wlad a bydd ffilmiau o’i daith yn rhan o raglenni Llangollen/12 ar ddydd Iau a Gwener, 5 a 6 Gorffennaf. 

Buodd Wyn yn siarad â ni am y profiad: 

 

Pa gorau y bues di’n ymweld â nhw yn Ne Affrica? 

Fe aethon ni i Dde Affrica i ddilyn dau gôr. Roedd y cyntaf o dre Pietermaritzburg sydd tua awr i’r gogledd o Durban. Mae’r Midlands Youth Choir yn dod draw i Langollen i gystadlu am y tro cyntaf eleni. 

Beth sydd mor arbennig am y côr yma yw ei fod yn cynnwys disgyblion o 14 ysgol wahanol – yn gymysgedd o ysgolion bonedd, llywodraeth ac ysgolion llwm. Mae’r côr wedi galluogi lot fawr o blant i ddod at ei gilydd. Buase nhw ddim wedi cael y cyfle i gwrdd fel arall. 

Mae’r côr yn llawn cymeriadau a buon ni’n dilyn un bachgen o’r enw Sihle. Sihle yw Prif Fachgen y côr ac mae’n dod o gefndir eithaf tlawd. Ond mae ei fam wedi gweithio yn galed er mwyn gallu ei anfon i ysgol ddechau, ac mae ei holl waith caled hi yn dwyn ffrwyth achos mae’r cyfleoedd mae e wedi ei gael wedi galluogi iddo ddatblygu fel person. 

Nawr maen nhw wedi cael cyfle i ddod draw i gystadlu yn Llangollen, ac roedd yn wych cael cwrdd â nhw a’u teuluoedd yn eu cynefin. 

Wedyn fe aethon ni lawr i Capetown i ddilyn côr Fezeka wnaeth ddechrau yn wreiddiol mewn un o ysgolion trefgordd Guguletu y tu allan i Capetown. Mae’n le tlawd ond o ddweud hynny mi wnes i ddysgu lot fawr o fod yno. 

Er mor wael yw cyflwr eu tai ac er eu bod nhw’n byw mewn amgylchiadau eithaf llwm o’u cymharu â’n safonau ni, roedd gwên ar eu hwynebau nhw ac roedden nhw i gyd yn mwynhau bywyd. Roedd cerddoriaeth yn dod â nhw at ei gilydd a drwy’r côr mae ambell un wedi gallu mynd ymlaen i astudio cerddoriaeth ac i weithio yn broffesiynol yn y byd cerdd. 

Mae’r athro wnaeth sefydlu’r côr bellach wedi symud i ysgol arall ac mae rhai o’r disgyblion o’r côr gwreiddiol yn mynd ato i weithio fel role models i’r plant newydd. Maen nhw’n dysgu’r plant yn y côr newydd ac mae hwythau’n trio dilyn yn eu llwybr. 

Mae’r côr wedi bod i Langollen o’r blaen, ond fyddan nhw ddim yn cystadlu y tro yma. Maen nhw yn rhan o’r cyngerdd Karl Jenkins ar y nos Wener ac yn perfformio’r rhan sy’n son am Nelson Mandela. 

 

Pam fod Eisteddfod Llangollen yn ddigwyddiad mor arbennig?  

Mae Llangollen yn Eisteddfod unigryw am ei bod yn dod â phobl at ei gilydd o bob cefndir a phob gwlad er mwyn mwynhau cerddoriaeth a dawnsio. Mae wedi bod yn grêt cael dod i adnabod rhai ohonyn nhw yn well. 

Roedd cael mynd i’w hardal nhw a dysgu am eu hanes yn agoriad llygad. Yn y wlad yma rydym yn aml yn meddwl bod pethau yn galed arnom ni, ond mae mynd i lefydd tlawd yn dangos er bod pethau yn gallu bod yn rhwystredig i ni, rydym mewn gwirionedd yn ffodus iawn. 

Mi wnes i ffrindiau da yn y grwpiau a dwi’n edrych ymlaen at gael cwrdd â nhw eto yn Llangollen. Tra roeddwn i yn Ne Affrica roeddwn i’n gofyn iddyn nhw beth oedden nhw yn feddwl am Gymru, a beth oedd eu delweddau nhw o’r wlad. Fe gâ nhw weld dros eu hunain os oedden nhw’n gywir ai peidio! 

 

Beth wnes di fwynhau fwyaf am dy daith i Dde Affrica?  

Beth wnes i fwynhau fwyaf oedd gweldpamor bwysig yw cerddoriaeth yn Ne Affrica. Mae’n rhan naturiol o fywyd ysgolion cynradd ac uwchradd ac yn rhan naturiol o’u bywydau nhw bob dydd ac ym mywyd y teuluoedd. Roedd hynny yn ffantastig i’w brofi.

 

Er mai dyma fydd y tro cyntaf i ti gyflwyno o Langollen, rwyt ti yn hen gyfarwydd â’r llwyfan.  

Bues i yn cystadlupan yn fach ac fe enilles i ar ddau achlysur. Fe enilles i’r unawd alaw werin dan 16 ddwywaith ac mae’r ddwy fedal yn cael eu dangos yn prowd yng nghabinet mam! 

Mi wnes i hefyd berfformio gyda Only Men Aloud! ddwy flynedd yn ôl. Roedd yr ymateb gawsom ni yn ffantastig. Ac roedd y profiad o fod ar y llwyfan fel oedolyn ac yn aelod o gôr yn  gwbl wahanol i fod ar ben fy hun yn grwt 10 mlwydd oed. Yn wahanol ond yr un mor gyffrous! 

 

Gwyliwch rhan o daith Wyn i Dde Affrica yn y rhaglenni Llangollen/12 ar dydd Iau a Gwener, 5 a 6 Gorffennaf.

 

Gwylio Eisteddfod Llangollen ar S4C

  • Mawrth i Gwener 8.25pm – rhaglen uchafbwyntiau
  • Mercher i Gwener 1.05pm – darlledu’n fyw
  • Sadwrn 1.30pm - darlledu’n fyw
  • Sadwrn 8.15pm – Côr y Byd – Bydd enillwyr y cystadlaethau corawl yn cystadlu ar gyfer teitl Côr y Byd 2012 a thlws Luciano Pavarotti.
  • Sul 8.30pm – Karl Jenkins – Uchafbwyntiau cyngerdd yn cynnwys detholiad o waith corawl Karl Jenkins, The Peacemakers o Langollen 2012.

 

Gydol yr wythnos gallwch hefyd ddilyn y cystadlu, yn ogystal â gweld holl ganlyniadau’r llwyfan ar-lein ar www.llangollen.tv.

Gwefan   Llangollen TV   Facebook   Twitter