Gan fod Rasus Ceredigion wedi eu canslo, ar ddydd Sadwrn 7 Gorffennaf, oherwydd y glaw, bydd tîm Rasus yn darlledu’n fyw o Dairgwaith yn lle. 

Mae dal cyfle i chi ennill £500 Ras am Rif felly ewch i wefan Rasus i gofrestru

Ar ôl ei phrofiad cyntaf yn sylwebu’n fyw ar Rasus o Dairgwaith ym mis Mehefin, mae Megan yn edrych ymlaen at ddychwelyd yno i sylwebu am yr eildro. 

 

Sut brofiad oedd sylwebu yn fyw ar Rasus am y tro cyntaf? 

Roeddwn i’n petrified cyn mynd ar y meic yn Nhairgwaith. Doedd gen i ddim syniad beth i’w ddisgwyl! Er bod gen i nodiadau o fy mlaen mi roedd y rhan fwyaf wedi dod o dop fy mhen. 

Roedd Wyn Gruffydd, fy nghyd sylwebydd, yn wych. Roedd yn help i mi ymlacio felly yn y diwedd fe wnes i fwynhau. Dwi’n siŵr y bydd Ray yn rhoi’r un gefnogaeth i mi y tro yma. 

 

Cyn i’r digwyddiad gael ei chanslo, roedd Megan Taff yn edrych ymlaen at Rasus Ceredigion ac i sylwebu ar ras Feinal Clasur Ceredigion.  

Ddeng mlynedd yn ôl, enillodd Megan y teitl gan yrru’r ceffyl Merry Baron, un o geffylau ei chyd-sylwebydd Ray Jenkins. 

Beth wyt ti’n cofio am y diwrnod hwnnw nôl yn 2002? 

Mae gen i atgofion melys iawn o’r diwrnod hwnnw. Roedd Ray wedi gofyn i mi yrru ac roedd yna eitha’ siawns y baswn i’n gwneud yn dda, ond doedden ni ddim yn disgwyl ennill o gwbl! 

Roedd hi’n ddiwrnod eithriadol o braf. Mi enillais i’r heat a phawb yn falch iawn o hynny ond wedyn pan ddaeth y ffeinal mi wnaeth popeth ddisgyn i’w le. Dwi’n cofio rasio lawr yr home straight a Ray yn neidio i fyny ac i lawr wrth ei fodd! 

Roedd o’n neis bod rhywun lleol wedi ennill, a rhywun oedd wedi bod wrthi ers sbel hefyd. Roedd o’n brofiad gwych. 

Sut mae Rasus Ceredigion wedi newid er hynny?  

Dim ond diwrnod o hyd oedd Rasus Ceredigion ddeng mlynedd yn ôl. Ond diolch i waith diflino gan y pwyllgor mae’r ŵyl wedi tyfu i fod yn dridiau o rasio penigamp sy’n denu dros 300 o geffylau o bob cornel o’r Deyrnas Unedig i gystadlu. 

Mae’r pwyllgor wedi gweithio yn galed yn y blynyddoedd diwethaf i wella’r trac ac i hyrwyddo’r digwyddiad, a’r cwbl yn ddi-dâl. 

Roedd hi’n fraint mawr ennill y wobr nôl yn 2002, ond oherwydd twf y digwyddiad mae’n fraint hyd yn oed yn fwy erbyn hyn.

 

Yn anffodus, oherwydd y glaw trwm, bydd neb yn rasio yng Ngheredigion y penwythnos hwn. Ond bydd digon o gyffro i’ch diddanu yn fyw brynhawn Sadwrn o Dairgwaith. 

Rasus Tairgwaith, Sadwrn 7 Gorffennaf 5.30pm 

Cofiwch gofretru am y cyfle i chi ennill £500 yn y gystadleuaeth Ras am Rif.

Gwefan   Clic