Bydd S4C ynghanol y cystadlu gyda darllediadau di-dor a mwy o oriau nag erioed o’r blaen o Faes y Sioe rhwng 23 a 26 Gorffennaf.

O fore gwyn tan nos, fe fydd tîm cyflwyno S4C yn darlledu’r gorau o’r prif gylchoedd, yn ogystal â chyfarfod y cystadleuwyr, y beirniaid ac ymwelwyr y Sioe Frenhinol o amgylch y maes.

Eleni bydd y tro cyntaf i Meinir Jones, un o gyflwynwyr Ffermio ar S4C, ohebu o’r Sioe. Mae’n dipyn o newid byd i’r gyflwynwraig sydd fel arfer yn mynychu’r Sioe Frenhinol i gystadlu gyda’r hyrddod Balwen sydd ganddi ar ei fferm adref.

Gyda’r Sioe yn brysur agosáu, dyma beth oedd ganddi ddweud.

“Y Sioe Frenhinol yw’r Gemau Olympaidd i amaethwyr, cynhyrchwyr bwyd a phawb sy’n gysylltiedig â chefn gwlad yng Nghymru. Yn sicr mae’n un o uchafbwyntiau’r flwyddyn. Dwi wedi bod yn mynychu’r sioe erioed ac wedi cael profiadau bythgofiadwy dros y blynyddoedd. Ble arall y cewch chi brofiadau o flasu bwyd gorau’r wlad, gweld anifeiliaid o bob math yn cael eu harddangos, cystadlu brwd y ffermwyr ifanc a chyfle am glonc gyda chyfeillion hen a newydd?

“Mae’n fraint ac anrhydedd enfawr i ymuno â thîm cyflwyno rhaglenni’r sioe. Yn ystod yr wythnos, fe fydda i yng nghylch y defaid yn dod â’r cystadlu a’r canlyniadau yn fyw i chi. Rwy’n siŵr bydd hi ychydig yn wahanol i fod wrth ochr y cylch eleni yn hytrach nag yn ei ganol yn cystadlu gyda fy nefaid. Wedi dweud hynny, fe fyddai wedi helpu gyda pharatoi fy nefaid o flaen llaw ac yn cadw llygaid barcud ar y teulu wrth iddyn nhw eu harddangos.

“I’r rheini ohonoch fydd yn agos i gylch y defaid, cofiwch alw draw i’n gweld ni. A phob lwc i bawb sy’n mynd i fod yn rhan o’r sioe mewn un ffordd neu llall.”

Nos Sul 22 Gorffennaf 8.00pm, S4C
Dydd Llun 23 – Dydd Iau 26 Gorffennaf o 9.00am, S4C
Rhaglenni uchafbwyntiau (Llun i Iau) 8.25pm, S4C