Ym mis Gorffennaf bu rhaglenni arbennig yn dathlu pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn 50 oed. 

Roedd y rhaglen ddogfen Cymdeithas yr Iaith yn 50 ar nos Fawrth 10 Gorffennaf yn pwyso a mesur hanner canrif gyntaf y Gymdeithas. O’r brotest dorfol gyntaf ar Bont Trefechan, Aberystwyth, i ymgyrchoedd tanllyd yr arwyddion ffyrdd dwyieithog a’r ymgyrch dros sianel deledu Cymraeg.  

Yna ar nos Wener a nos Sadwrn, 13 a 14 Gorffennaf, roedd Gig50 yn darlledu’n fyw o’r cyngherddau i ddathlu’r pen-blwydd ym Mhafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid.  

Gwyliwch y cyfan eto ar Clic. 

Eich Sylwadau:  

  • Rhaglen ysbrydoledig am hanes CYI heno. Da iawn @s4carlein a @rondomedia. I’r gad am y 50 mlynedd nesaf! 
  • Dwi’n meddwl na’r rhaglen #50Cymdeithas ma ydi fy un o fy hoff raglenni erioed. 
  • Rhaglen arbennig ar CYIG – cofnod hanesyddol pwysig dros ben.  Cyflwynydd gwych hefyd. 
  • Byddai’n wych pe bai modd cael rhaglen Saesneg tebyg i’r hyn oedd ar S4C am CYI. 
  • Ma #gig50 wedi dangos faint mor bwysig ma cerddoriaeth cyfoes Cymraeg …mwy o rhaglenni pop plis #s4c 
  • Wedi mwynhau #gig50 ar S4C neithiwr. Dim gystal a bod yno ond rhaglen arbennig o dda. Edrych ymlaen i weld mwy heno. 
  • Oes na gyflwynwraig gwell na Lisa Gwilym? Dim angen ateb, cwestiwn rhethregol, wrth gwrs does na ddim! #gig50 
  • Gwylio #gig50 nôl nawr, cynhyrchiad safonol a @LisaGwilym yn neud job anhygoel o lywio’r cyfan #pro #gawnnifwyohynplis? 

 

Gwefan   Clic