Yn y Cylch Gwartheg am 5.00pm brynhawn Mawrth, 24 Gorffennaf, bydd cyfle i chi gwrdd â’r deg ffermwr sy’n cystadlu yn Fferm Ffactor eleni.
Darllenwch am y deg ar y wefan
Dewch i wylio tri ohonyn nhw yn cystadlu mewn her beic fferm gyda chyfle i ennill beic TRX420FA ATV gwerth £7,800 yn rhodd gan Honda.
Ddechrau’r mis, daeth y deg at ei gilydd am y tro cyntaf a chymryd rhan mewn hyfforddiant gyrru beic modur gan Cyswllt Ffermio Cymru. Y tri gorau ar y diwrnod hwnnw sy’n cael cystadlu am y wobr ar y maes – ond bydd neb yn gwybod pwy tan ddiwrnod y sioe.
Dywedodd Non Griffith o Gwmni Da, cynhyrchydd y gyfres, “Mae’r digwyddiad ar faes Y Sioe yn gyfle i wylwyr gwrdd â’r cystadleuwyr am y tro cyntaf, ac yn gyfle i rai ohonyn nhw ddangos eu sgiliau.
“Mae’n flas o’r hyn sydd i ddod yn y gyfres ym mis Hydref, ac rydym yn ddiolchgar iawn i Honda am noddi’r her gyntaf yma.”
Mae Fferm Ffactor yn ôl ar S4C yn mis Hydref
