Dewch i adeilad S4C yn Y Sioe Frenhinol o 23 i 26 Gorffennaf i ymlacio (ymochel rhag y glaw) a gwylio digwyddiadau’r prif gylch yn fyw ar ein sgrin fawr

Bydd Cornel Cyw yn dangos rhai rhaglenni i blant bach a bydd y lle lliwio hefyd yn eu cadw’n brysur. 

Mae cyfle i hawlio gwobr am ddim drwy gasglu sticeri arbennig o wahanol stondinau ar y maes. Casgla’r cerdyn arbennig o adeilad S4C cyn mynd ati i chwilio am y chwe sticer. 

Hefyd prynwch nwyddau S4C, Cyw a Stwnsh yn y siop.

Fferm Ffactor - Yn y Cylch Gwartheg am 5.00 brynhawn Mawrth 24 Gorffennaf dewch i gwrdd â ffermwyr cyfres 2012 a gwylio rhai yn cystadlu am wobr arbennig. Darllen mwy am yr her

Gwefan Y Sioe/12