Mae wedi bod yn gyfnod anodd i Gwyneth yn ddiweddar, rhwng ymladd yn erbyn ei chydwybod a derbyn triniaeth am ganser y groth. Ond yr wythnos hon ar Pobol y Cwm mae awgrym bod llawer gwaeth i ddod.
Pan fu farw Brandon, bron i flwyddyn yn ôl, roedd llawer o ddyfalu ymysg trigolion Cwmderi ynglŷn â phwy yn union a’i lladdodd. Yr un a gadwodd y gyfrinach yna’n gelfydd o gudd am chwe mis, oedd Gwyneth. Ond gyda mwy o bobl yn dod i wybod mai hi ddechreuodd y tân, mae’r rhwyd yn dechrau cau amdani.
Llinor Gwynedd, sy’n chwarae rhan Gwyneth, sy’n sôn am euogrwydd ei chymeriad:
Ydi Gwyneth yn credu ei bod hi wedi cael ei haeddiant?
Mae Gwyneth wedi bod yn teimlo’n euog ofnadwy a dyna pam y dywedodd y gwir wrth Yvonne. Ar ôl cael canser, roedd hi’n meddwl ei bod hi’n cael ei haeddiant… rhyw fath o karma.
Ond mae rhywun arall yn gwybod am y gyfrinach oherwydd mae Gwyneth wedi derbyn llythyrau cas, dienw. Oes ganddi syniad gan bwy?
Dyw Gwyneth ddim yn credu mewn gwirionedd mai un o’r Monks sy’n anfon y llythyrau. Pe baen nhw gwybod, bydden nhw’n dod yn syth ati, gan wneud ei bywyd hi’n amhosib. A dyna sy’n peri’r mwyaf o ofid, bod rhywun mas yna’n gwybod beth wnaeth hi. Pa dystiolaeth sydd ganddyn nhw a beth yw eu bwriad?
Mae gan Gwyneth berthynas agos â Garry a Britt, ond dial yw’r un peth ar feddwl y ddau ers colli eu brawd. Pa un mae Gwyneth yn ei ofni fwyaf?
Wy’n credu ei bod hi’n ofn Garry, hynny yw, mae unrhyw un â bach o synnwyr yn gwybod y byddai fe’n dial ac yn ymateb mewn ffordd gas. Y posibilrwydd o ddial dros amser sy’n creu’r ofn a’r paranoia yna.
Mae hi’n caru’r ddau ohonynt i ryw raddau. Er bod ganddi berthynas ryfedd â Garry, mae hi’n ei barchu fel tad i’w phlentyn, Gwern. Er mae’n ffin agos rhwng cariad a chasineb.
Ond mae Britt yn fwy ymfflamychol ac mae’r ddwy yn wirioneddol agos. Ro’n nhw’n gariadon ar un pwynt, mae yna ryw fond gyda nhw ac yn sicr, dyw hi ddim ishe siomi’r un o’r ddau ohonyn nhw.
Felly heb gosb am ei gweithredoedd, a’r bygythiadau dienw, mae Gwyneth yn byw mewn ofn ac yn edrych dros ei hysgwydd gan boeni beth a ddaw nesaf. Ond ai cleisiau meddyliol yn unig fydd ganddi dros yr wythnos neu ddwy nesaf?
Pobol y Cwm, Llun i Iau 23 i 26 Gorffennaf 8.00pm, a nos Wener 27 Gorffennaf 8.30pm
