Paratowch i chwerthin hyd nes bod eich bol yn brifo wrth i’r gyfres heriol ddwy ran Sbariwns ar nos Fercher, 25 a nos Iau, 26 Gorffennaf.

Ydych chi erioed wedi clywed am heddlu’r anifeiliaid, sy’n arestio creaduriaid sy’n troseddu? Neu beth am Al Kathene – uwch arwr newydd sydd am achub y byd? Cewch gyfle hefyd i ddysgu sut mae byw yn y gwyllt gan fwyta planhigion y goedwig gyda Paul a Mike yn y gyfres radical hon. 

Daw’r gyfres o sgetsus o gynnyrch fferm greadigol Cwmni Garn Fach yng Ngheredigion ac mae’r themâu’n amrywio o arswyd i’r hurt, y gwallgo’ a’r gwyllt! 

Rhodri ap Hywel, Hedd ap Hywel a Meleri Williams yw’r tri sydd wedi bwrw ati i ysgrifennu, ffilmio a golygu’r sgetsys a nhw hefyd fydd yn ymddangos yn Sbariwns

Mae’r gwneuthurwyr ffilm ifainc wedi llwyddo i ledu eu gwaith yn llwyddiannus cyn nawr – o ddangosiadau comedi ar sgrin sinema Theatr Felin-fach i wefan fyd eang You Tube. 

Sbariwns, Nos Fercher 25 a nos Iau 26 Gorffennaf 10.00pm