Ymunwch yn y dathliadau wrth i gartref ysbrydol y gyfres Rasus ddathlu ei ben-blwydd yn 21 oed – a hynny ar noson fwya’r tymor rasio harnes hyd yn hyn. 

Nos Sadwrn 21 Gorffennaf, bydd Ifan Jones Evans, Dot Davies, Megan Taff, Hywel Davies, Wyn Gruffydd a Raymond Jenkins yn arwain y dathlu ar Noson Pencampwyr S4C a Ffeinal y Crochan Aur yn fyw o Dir Prince, ger Abergele. 

Y sylwebydd Wyn Gruffydd sydd wrth ei fodd yn cyflwyno cyffro Rasus yn arena anhygoel Tir Prince. 

Beth yw hanes Tir Prince? 

Pan agorodd trac Tir Prince ugain mlynedd a mwy yn ôl, roedd yn lwyddiant ysgubol dros nos. Roedd y safle ger Abergele yn ddelfrydol – ar y pryd roedd yna dipyn o gystadlu harnes yng Ngogledd Lloegr ac unigolion o Gymru hefyd yn dechrau ymddiddori yn y gamp. Fe fyddai’r dorf yn ymgynnull yna’n wythnosol er mwyn gwylio rasio harnes o safon ac fe wnaeth y gamp yn sicr cydio yn nychymyg y dorf. 

Beth sy’n gwahaniaethu Tir Prince o’r cyrsiau eraill? 

Mae gan bob lleoliad ei awyrgylch unigryw ei hun. Ond yr hyn sy’n gwahaniaethu Tir Prince o’r lleill yw’r lleoliad prydferth a’r golygfeydd bendigedig. Does ‘na ddim byd gwell na gwylio ras gyffrous yn Nhir Prince dan y llifoleuadau gyda’r ffair a glan y môr yn y cefndir a’r ceffylau’n brwydro am y Crochan Aur. Mae’r ffactorau yna i gyd yn ychwanegu at chwedloniaeth Tir Prince. 

Mae’r tywydd wedi cael cryn effaith ar y cystadlu eleni. Ond beth fydd gan y cystadlu yn Nhir Prince i gynnig i’r gwylwyr? 

Dyma fydd uchafbwynt y tymor hyd yn hyn heb amheuaeth. Mae’r glaw a’r tywydd anffodus wedi cael cryn dipyn o effaith ar y cystadlu eleni. Ond fe fydd Rasus Tir Prince yn fwy o ras mae’n siŵr gan fod y ceffylau a’r gyrwyr ar flaenau eu traed eisiau rasio ar ôl siom yr wythnosau diwethaf. Wrth gwrs mae’r Crochan Aur yn y fantol hefyd – gwobr sy’n rhoi kudos a statws i’r enillwyr ar draws y byd rasio harnes i gyd. 

Yn syth ar ôl i’r ceffylau groesi’r llinell derfyn, fe fyddwch chi’n teithio i Lanelwedd ar gyfer darllediadau S4C o’r Sioe Frenhinol. Beth ydych chi’n mwynhau fwyaf am sylwebu yn y Sioe? 

Bob blwyddyn mae yna awyrgylch arbennig yn perthyn i’r Sioe yn Llanelwedd gyda rhesi hir o bobl yn ciwio am le i wylio’r cystadlu yn y prif gylch. Rydw i’n ddigon ffodus i gael bod yno drwy’r wythnos yn gwylio’r gorau o’r cystadlu. Gyda chymaint o geffylau’n cystadlu, mae’n dipyn o sialens i ddod o hyd i wybodaeth am bob un. Mae’n rhaid bod ar ben dy gêm. Mae’n un o uchafbwyntiau’r flwyddyn imi. Dydw i ddim wedi colli Sioe Frenhinol am dros ddeng mlynedd ar hugain am wn i. 

 

Ras am Rif 

Cofiwch hefyd fod cyfle i chi ennill £500 yn y gystadleuaeth Ras am Rif. Ewch i wefan Rasus neu ffoniwch 0844 335 1897 – i gofrestru. (Cost yr alwad fydd 15c y funud o linell BT yn dibynnu ar eich cynllun, gall y gost fod yn uwch i ddarparwyr eraill, yn cynnwys ffonau symudol). 

Rasus Tir Prince, Dydd Sadwrn 21 Gorffennaf 5.30pm a 7.30pm

Gwefan   Clic