Rhodri Evans, o’r Parc ger Y Bala, ddaeth i’r brig yn yr her arbennig ar faes Y Sioe Frenhinol, ar 24 Gorffennaf. 

Y wobr oedd beic fferm ATV gwerth £7,800 yn rhodd gan Honda.

Yn cystadlu yn erbyn Rhodri roedd Robin Williams o Dudweiliog, Pen Llŷn a Dilwyn Owen o Lanedwen, Ynys Môn.

Dyma oedd yr ail dro i Rhodri wynebu her Fferm Ffactor yn Y Sioe, o flaen torf o filoedd a ddaeth i gefnogi.

“Roedd y nerfau y tro yma yn waeth na’r llynedd dwi’n amau,” meddai Rhodri, a oedd yn un o’r cystadleuwyr a gafodd eu hanfon adref cyn dechrau’r gyfres y llynedd yn dilyn tasg byw yn Y Sioe. 

Darllen mwy am ei fuddugoliaeth 

Gwefan   fb.com/ffermffactor   @FfermFfactor