Y penwythnos yma mae Dudley yn gwledda yn Ffair Fwyd Llambed a bydd ei raglen Dudley yn Gwledda ar nos Fercher 1 Awst am 9.00pm yn dangos y gorau o’r cynnyrch sydd ar gael i’w brynu a’i flasu ar y stondinau.
Wyt ti wedi bod i’r ffair o’r blaen?
Bues i yn Ffair Fwyd Llambed flynyddoedd yn ôl pan oedd hi ond yn dechrau. Mae hi wedi tyfu tipyn ers hynny ac ‘rwy’n edrych ‘mlaen i weld beth sydd yno erbyn hyn.
Pa gyfleoedd mae ffeiriau fel hyn yn gynnig i gynhyrchwyr bwyd?
‘Rwy wastad yn hoffi chwilio am bethau newydd i’w blasu ac mi fydda i’n chwilota am y cynnyrch diweddaraf sydd ar gael yn y farchnad. Mae digwyddiadau fel hyn, yn ogystal â marchnadoedd fferm sydd ymlaen gydol y flwyddyn, yn gyfle i gynhyrchwyr brofi eu cynnyrch newydd a chasglu barn y cwsmer.
Bues i’n ymweld â chwmni Caws Teifi yn Llandysul sydd newydd ddechrau menter newydd yn cynhyrchu gwirod oren organig. Maen nhw wedi buddsoddi £60,000 mewn offer distyllu ac mae cynlluniau mawr ar y gweill ar gyfer cynhyrchu diodydd eraill.
Efallai y byddech chi’n credu ei fod yn gam rhyfedd i gwmni caws ddechrau cynhyrchu gwirod, ond mae’r perchennog John Savage-Onstwedder eisoes wedi cynhyrchu wisgi organig.
Er fe wnes i fwynhau joch o’r gwirod, nid er mwyn ei yfed yn unig mae’r cynnyrch hwn ac fe fydda i’n dangos sut mae modd ei ddefnyddio wrth goginio hefyd.
Pwy arall wyt ti’n ymweld â nhw yn y rhaglen?
Bydda i’n galw i weld cwmni Siwgr Eisin yn Arberth wrth iddyn nhw geisio paratoi digon o gacennau i’w gwerthu yn Llambed.
Byddwn yn cwrdd â’r cogydd Geraint Morgan ym Mhlasty Tŷ Mawr ger Llambed. Mae Geraint yn gogydd profiadol sydd wedi ei fagu’n lleol, yn byw yn lleol ac yn gweithio yn lleol. Dyw hi ond yn naturiol felly ei fod yn defnyddio cynnyrch lleol yn y gegin. Rwy’n edrych ymlaen at weld beth fydd e’n ei baratoi i ni.
Bydda i hefyd yn paratoi pryd o fwyd i Gary Slaymaker. Rwy’n nabod Gary ers blynyddoedd. Roedden ni’n gweithio gyda’n gilydd ar y rhaglen Heno ugain mlynedd yn ôl, ac roedd e wastad yn awyddus i flasu beth roeddwn i’n coginio! Mae e’n hoffi trio coginio pethau newydd ac yn hoff iawn o fwyd da, felly mae e’n awyddus i ddysgu tipiau a ryseitiau newydd.
Dudley yn Gwledda: Llambed, Nos Fercher 9.00pm
