Mae S4C yn chwilio am gystadleuwyr ar gyfer rhaglen ddêtio newydd sbon. 

Ydych chi’n chwilio am gariad? Heb ddod o hyd i unrhyw un sy’n eich caru chi a’ch anifail anwes? 

Os ydych chi’n dwli ar eich cymar pedair coes, ond yn dal i chwilio am eich cymar bywyd, dyma’r rhaglen i chi! Gadewch i’ch anifail anwes eich arwain at y partner perffaith. 

Cysylltwch â sarah.reynolds@telesgop.co.uk neu ffonio 01792 824567 am rhagor o wybodaeth.