Bydd tri chant o leisiau swynol plant ardal Bro Morgannwg yn uno ar gyfer Cyngerdd Agoriadol Eisteddfod Genedlaethol y Fro.  

Yn y rhaglen Only Kids Aloud o’r Fro nos Iau, 2 Awst 9.00pm, bydd cyfle i weld sut y daeth y cyfan at ei gilydd, dan arweiniad yr amryddawn Tim Rhys- Evans.  

Yna ar nos Wener, 3 Awst 8.15pm, gwyliwch berfformiad cyhoeddus cynta’r côr yn Eisteddfod Genedlaethol 2012 – Cyngerdd Agoriadol

Dywedodd Tim Rhys-Evans, “Roeddwn i eisiau creu côr o blant lleol ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol fel bod y plant yma’n gallu profi’r wefr o berfformio ar lwyfan fawreddog yn eu milltir sgwâr eu hunain. 

“Does ‘na ddim llwyfan yng Nghymru sy’n fwy na’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae’r ymateb i’r ymgyrch newydd wedi bod yn wych gyda dros 300 o blant nawr yn rhan o gyffro’r prosiect.” 

Mae canran o’r plant yn y côr yn dod o gartrefi di-Gymraeg ac mae’r prosiect diweddaraf yn ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg yn ogystal â chanu corawl traddodiadol. 

“Mae yna draddodiad hir a chryf gan yr Eisteddfod Genedlaethol o feithrin a datblygu perfformwyr ifanc yn yr iaith Gymraeg. Rwy wedi bod yn ddigon ffodus i arwain Only Men Aloud ac Only Boys Aloud ar lwyfan y Pafiliwn yn y gorffennol ac mae pawb yn ysu cael bod yn rhan o Ŵyl y Fro eleni.” 

Only Kids Aloud o’r Fro, Nos Iau 2 Awst 9.00pm

Eisteddfod Genedlaethol 2012 – Cyngerdd Agoriadol, Nos Wener 3 Awst 8.15pm