Mae Siân Jones yn ymuno â Matt Johnson i gyflwyno dwy raglen arbennig yn dilyn cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn 2012 ar dydd Sul 5 a 12 Awst.

Mae Siân yn diwtor Cymraeg yn y Cynulliad, sy’n gweithio o ddydd i ddydd yn dysgu ac yn annog Aelodau a swyddogion y Cynulliad i ddefnyddio’r iaith.

Bydd hi hefyd yn cadw sedd Nia Parry yn gynnes pan fydd y rhaglen yn dychwelyd i stiwdio Hwb ym mis Medi, tra bod Nia ar gyfnod mamolaeth.

Rhaglen 1 – prynhawn Sul 5 Awst 5.55pm

Cynhaliwyd rownd gynta’ Dysgwyr y Flwyddyn ym mis Mai,pan gafodd y 34 o ymgeiswyr eu cyfweld gan y beirniaid mewn digwyddiad arbennig yn San Dunwyd, Bro Morgannwg. Roedd Matt a Siân yno i ddilyn y broses ac i sgwrsio â’r ymgeiswyr cyn ac ar ôl eu cyfweliadau.

“Roedd y diwrnod yn agoriad llygad i mi am ddau reswm. Yn gyntaf, am fod rhaid i mi gyflwyno o flaen camera am y tro cyntaf a dysgu sut i ddal meicroffon. Roeddwn i’n nerfus a dweud y lleiaf!” meddai Siân, sy’n wyneb cyfarwydd i wylwyr Prynhawn Da fel cyfrannwr i’r eitem ‘Clwb Clecs’, ond dyma’r tro cyntaf iddi gyflwyno ar deledu.

“Yr ail reswm oedd am nad oeddwn i’n sylweddoli pwysigrwydd y gystadleuaeth i ddysgwyr. Roeddwn i wedi synnu faint o bobl oedd wedi trio ac eisiau cymryd rhan,” ychwanega Siân, sy’n wreiddiol o Ddyffryn Ardudwy ym Meirionnydd ond yn byw yng Nghaerdydd.

“Roedd hi’n ddiwrnod ffantastig gyda phob un mor frwdfrydig dros ddysgu Cymraeg. Roedd yn braf clywed eu hanes nhw a’u rhesymau dros fynd ati i ddysgu.

“Mae cystadleuaeth fel hyn yn rhoi hwb a chydnabyddiaeth i ddysgwyr, sy’n bwysig yn enwedig i oedolion gan fod dysgu iaith yn anoddach pan rydych chi’n hŷn.”

Y beirniaid eleni yw Elwyn Hughes o Brifysgol Bangor, Dr Rachel Heath Davies o Ganolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a’r cyflwynydd newyddion Siân Lloyd. Gyda chymaint o ymgeiswyr o wahanol alluoedd a chefndiroedd yn cystadlu, roedd yn dasg anodd dewis pedwar ar gyfer y rhestr fer.

Rhaglen 2 – prynhawn Sul 12 Awst 5.05pm

Byddwn yn dod i adnabod y pedwar – sef Ashok Ahir, sy’n wreiddiol o Wolverhampton ond erbyn hyn yn byw yng Nghaerdydd; Rhian Dickenson o’r Fenni; Isaías Grandis o Drevelin, Patagonia a Mark Morgan o Gastell Nedd.

Bydd Matt a Siân hefyd yn y seremoni wobrwyo ar 8 Awst er mwyn bachu ar y cyfle cyntaf i sgwrsio â’r enillydd.

Hwb: Dysgwr y Flwyddyn 2012

Rhaglen 1: Dydd Sul 5 Awst 5.55pm, S4C

Rhaglen 2: Dydd Sul 12 Awst 5.05pm, S4C

Gwefan   Clic   fb.com/hwbtv   @HwbTV