Mae Eisteddfod Cyw wedi bod ond cliciwch yma i wylio’r sioe

Dewch draw i’r Babell Lên yn yr Eisteddfod Genedlaethol am 5.00 o’r gloch dydd Sul 5 Awst ar gyfer Eisteddfod Cyw

Dewch i gefnogi eich hoff gymeriadau wrth iddyn nhw berfformio am y gorau mewn Eisteddfod go wahanol i’r arfer! 

Yn cystadlu bydd Sali Mali, Jac y Jwc, Oli Odl, Tigi, Huwi Stomp a Dona Direidi. 

“Cystadleuaeth agored yw hon gyda’r cymeriadau yn dewis beth fyddan nhw’n ei berfformio. Rydym yn edrych ymlaen at gystadleuaeth o’r radd flaenaf – boed yn ganu, dawnsio, adrodd neu chwarae offeryn – a byddwn yn gofyn i’r gynulleidfa ddangos pob chwarae teg i bawb,” meddai Einir Dafydd, cyflwynydd Cyw

Yno hefyd bydd Trystan Morris, Rachael Solomon a Gareth Delve a bydd llu o gymeriadau eraill o’ch hoff raglenni yn dod i ddangos eu cefnogaeth. 

Meddai Jac y Jwc, o Bentre Bach, “Dwi’n edrych ymlaen at ennill yr Eisteddfod. Dwi erioed wedi ennill dim byd o’r blaen.” 

Ond mae Dona Direidi, o Dre Be Nei Di, yn hyderus mai ei rapio penigamp hi fydd yn dod i’r brig, “Fi, Dona Direidi, sy’n mynd i ennill y dydd. Dwi’n mor dda ar rapio, bydd pawb yn gorfod clapio!” 

Eisteddfod Cyw

5.00pm dydd Sul 5 Awst

Y Babell Llên, Maes yr Eisteddfod Genedlaethol

Digwyddiad rhad ac am ddim a does dim angen tocyn 

Gwylio Eisteddfod Cyw   Gwefan Cyw   fb.com/CywarS4C   @CriwCyw