O 4 i 11 Awst, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol bydd Maes D ar agor gyda gweithgareddau a chyfle i ddysgwyr gwrdd a sgwrsio yn y Gymraeg. 

Mae Hwb yn rhan o’r cyfan gyda stondin ei hun yn adeilad Maes D ac mae croeso i chi ddod draw am sgwrs ac i ddysgu mwy am y rhaglen. 

Cliciwch yma i weld amserlen o weithgareddau Maes D (wedi ei darparu gan yr Eisteddfod Genedlaethol) 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Gwennol, Swyddog y Dysgwyr ar 0845 4090 300 neu gwennol@eisteddfod.org.uk neu ewch i wefan yr Eisteddfod eisteddfod.org.uk 

 

Hwb: Dysgwr y Flwyddyn 2012 

Mae Hwb hefyd yn dilyn gwobr Dysgwr y Flwyddyn, sy’n cael ei chyflwyno yn yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn. 

Bydd dwy raglen ar ddydd Sul 5 Awst 5.55pm, a dydd Sul 12 Awst 5.05pm yn cynnwys sgwrs gyda’r ymgeiswyr cyn ac ar ôl eu cyfweliadau yn y rownd gyntaf. Yna cawn ddod i adnabod y pedwar sydd ar y rhestr fer yn well. 

Bydd Hwb hefyd yn y seremoni wobrwyo ar 8 Awst i afael ar y cyfle cyntaf i sgwrsio gyda’r enillydd. 

Darllen mwy 

Gwefan   Clic   fb.com/hwbtv   @HwbTV