Eleni bydd tîm Heno yn cyflwyno yn fyw o faes yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf gyda rhaglenni ar nos Lun, Mawrth ac Iau.
Dyma hoff ŵyl y gyflwynwraig Angharad Mair ac mi fydd hi yno drwy’r wythnos bob blwyddyn. Mae hi’n edrych ymlaen at fynd â Heno i blith y gwylwyr ar y maes.
Beth fydd yn cael sylw Heno ar wythnos y Brifwyl?
Yr un fydd y rhaglen fel arfer gyda straeon difyr o bob cwr o Gymru. Ond, yn hytrach na chyflwyno o’r stiwdio yn Llanelli byddwn yn llywio’r rhaglen o babell S4C ar faes y Brifwyl.
Mae croeso i unrhyw un ddod draw atom ni am sgwrs. Rydym hefyd yn awyddus i glywed gan wylwyr am ddigwyddiadau sydd yn eu hardal nhw i ni roi sylw iddyn nhw ar y rhaglen.
Pam wyt ti mor hoff o’r Eisteddfod?
Ges i fy magu ar faes carafanau’r Eisteddfod. Mae’n braf cael mynd yno bob blwyddyn a bydda i a’m ffrindiau o’r coleg yn cael ein haduniad blynyddol ar y maes carafanau. Yn y garafán byddwn ni’n aros eto eleni.
Mae wythnos brysur o dy flaen di a’r teulu.
Yn ogystal â gweithio ar Heno bydda i yn arwain ar lwyfan y Pafiliwn am y tro cyntaf, sy’n her newydd i mi.
Mae fy nwy ferch hefyd yn mynd i fod yn brysur iawn gydag Efa, sy’n 10 oed, yn un o ferched y Ddawns Flodau a Tanwen, 12 oed, yn un o law forwynion Merch y Fro yn seremonïau’r Orsedd. Bydd hi’n wythnos brysur, ond rydym ni wrth ein bodd!
Heno yn fyw o’r Eisteddfod, Llun, Mawrth ac Iau (6, 7 a 9 Awst) 7.00pm
Gwefan Clic fb.com/Heno-S4C @henoS4C
