Byddwch yn rhan o ddigwyddiadau a gweithgareddau ym mhafiliwn S4C ac ar hyd y maes.
Cliciwch yma am gopi o’r amserlen lawn i’w hargraffu a’i chadw
Bob dydd ond am ddydd Sadwrn 11 Awst
Sioe Cyw - Sioe boblogaidd i blant bach gyda rhai o’ch hoff gymeriadau.
PWYSIG! System Docynnau Sioe Cyw
Os ydych am weld y sioe cyn 1.00yh, bydd gofyn i chi gasglu’ch tocynnau o stondin S4C unrhyw bryd o 9.30yb. Bydd tocynnau ar gyfer perfformiadau sy’n cael eu cynnal ar ôl 1.00yh yn cael eu rhyddhau o 12.15yh ymlaen.
Mae’r tocynnau am ddim. Gorau po gyntaf i chi ddod i’w casglu, gan fod galw mawr amdanynt bob amser.
Er mwyn rhoi cyfle i gynifer o blant ag sy’n bosib gweld y sioe, rydym yn gofyn i deuluoedd fod yn ystyriol ac osgoi mynychu mwy nag un perfformiad gyda’r un plant. Rydym hefyd yn gofyn yn garedig i chi geisio cadw’r nifer o oedolion sy’n mynychu i isafswm.
Nid oes angen tocyn ar gyfer sioeau Cyw ar hyd y maes na digwyddiadau eraill ym mhafiliwn S4C – cyntaf i’r felin!
Bob dydd
Cwis Tag - Cwis i bobl ifanc yng nghwmni’r cyflwynwyr Geraint ac Elin.
Dawnsio gyda Cyw a’i ffrindiau – Dewch i ddawnsio a chanu gyda’ch hoff gymeriadau.
Mercher
2.00 – Iawn Mêt? – Cwis Tudur Owen.
6.00 – Beth wnaeth Bro Morgannwg erioed i ni? – Cyflwyniad RTS am gyfraniad y Fro i deledu yng Nghymru.
Iau
1.00pm – O LA i Landw – FfilmClub Cymru yn cynnal sesiwn holi ac ateb yng nghwmni Matthew Rhys, Marc Evans, Nia Roberts a Daniel Glyn.
Gwener
2.30 – Sgorio – Sesiwn holi ac ateb gyda chyflwynwyr Sgorio.
Sadwrn 11/08/12
10.00, 12.00, 3.00 – Amser Stori gyda Cyw
Ar Hyd y Maes
Bob dydd
Cyw – Y Pagoda, y Neuadd Ddawns, Llwyfan Perfformio a’r Stiwdio ar y Maes – Cyfle i ddawnsio gyda Cyw a’i ffrindiau wrth iddyn nhw grwydro i leoliad gwahanol bob dydd.
Sioe Stwnsh – Y Llwyfan Perfformio – Sioe gyda Tudur, Anni, Lois ac Owain.
Sadwrn 4/8/12
1.30 – Pethe: O Iolo i Jim: Ar drywydd Iolo Morganwg – Y Babell Lên - T. James Jones yn darlithio ar Iolo Morganwg. Yn cynnwys clipiau o’r rhaglen Pethe: Y Gwir yn erbyn y Byd?: Jim ar drywydd Iolo.
Sul
5.00 – Eisteddfod Cyw - Y Babell Lên – Sioe arbennig gyda’r cyflwynwyr a rhai o hoff gymeriadau Cyw. Darllen mwy
Iau
2.00 – Cario’r Fflam – Y Pagoda – Anerchiad gan Ian Jones, Prif Weithredwr S4C.
Sadwrn 11/8/12
11.00 – Pethe: Trafod cynnyrch llenyddol yr Eisteddfod – Y Babell Lên – Gwion Hallam sy’n holi Peredur Lynch, Siân Melangell Dafydd ac Ian Rowlands am waith buddugol Y Goron, Y Gadair a’r Fedal Ryddiaith yn ogystal â drama Theatr Genedlaethol Cymru Y Storm a gwaith Y Lle Celf.
1.00 - Cwis Llên ar y Sgrin – Y Babell Lên – Awr hwyliog i ddathlu deng mlynedd ar hugain o ddarlledu yn y Gymraeg.
Cliciwch yma am gopi o’r amserlen lawn i’w hargraffu a’i chadw
