Mae Ralïo+ yn dychwelyd i’r sgrin ar 16 Awst wrth i wylwyr S4C brofi adrenalin a chyffro’r byd chwaraeon moduro a beicio modur yng Nghymru a thu hwnt.
Emyr Penlan, Lowri Morgan, Howard Davies a Wyn Gruffydd sy’n dilyn cystadlaethau mor amrywiol â Phencampwriaeth Rali’r Byd (WRC), Pencampwriaeth Rali Prydain (BRC), MotoCross, Endiwro, Rasio Glas (Autograss) a threialon beiciau modur.
Mae’r rhaglen gyntaf yn cynnwys teyrnged i Gareth Roberts, y cyd-yrrwr rali o Sir Gaerfyrddin a fu farw mewn damwain yn yr Eidal. Bydd y rhaglenni nesaf yn rhoi sylw i Bencampwriaeth Rali Prydain lle mae dau Gymro, Elfyn Evans aTomCave, yn arwain y ffordd.
Emyr Penlan sy’n edrych ymlaen at y cyffro:
Oes cryn edrych ymlaen at y gyfres newydd?
Mae yna edrych ymlaen garw at y gyfres ymhlith ffans moduro ledled Cymru a thu hwnt. Ers inni ddangos rasus TT Ynys Manaw rai wythnosau yn ôl, rydyn ni wedi cael ymholiadau o bob cwr o Brydain yn gofyn pryd mae’r gyfres yn dychwelyd.
Mae’r gwylwyr yn licio’r amrywiaeth o gystadlu rhyngwladol o’r safon uchaf, a chystadlu lleol ar geir a motobeics ac rydyn ni’n mwynhau cwrdd â’r dilynwyr a’r cystadleuwyr yng Nghymru sy’n rhoi gwreiddiau dwfn i’r gamp yn ein gwlad.
Byddwch chi’n dilyn pob diwrnod o Rali Cymru GB eto eleni?
Y tro hwn, yn Sbaen ac nid yng Nghymru y cynhelir rownd olaf Pencampwriaeth y Byd. Mae hyn yn golygu y bydd Rali Cymru GB yn gynt eleni, ym mis Medi yn lle mis Tachwedd. Gyda lwc, efallai mai llwch ac nid mwd fydd yr her fwyaf i’r gyrwyr y tro hwn.
Beth bynnag fydd y tywydd, fe fydd gan Ralïo+ uchafbwyntiau cynhwysfawr bob nos rhwng Medi 13 a 16.
Un o uchafbwyntiau’r gyfres yw dy ddilyn di yn rasio yn yr Endiwro Dau Ddiwrnod Cymru yn Llandrindod. Sut hwyl ges di?
Dyma oedd y tro cyntaf imi dderbyn her yn rasio ar feic modur. Bydd yn rhaid i chi aros nes y rhaglen i weld shwd wnes i – ond fe alla i ddatgelu y bu’n rhaid imi gymryd gwyliau i ddod dros y profiad!
I gyd-fynd â’r gyfres, mae gwefan Ralio+ yn cynnwys y newyddion diweddaraf o’r byd moduro, proffeils gyrwyr, calendr y tymor a galeri fideo a lluniau.
Gwefan fb.com/ralios4c @ralios4c
