Isaias Grandis o Batagonia sydd wedi ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn 2012.
Cyflwynwyd y wobr ar nos Fercher 8 Awst fel rhan o Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg.
Bydd y rhaglen Hwb, am 5.05 prynhawn Sul 12 Awst, yn cynnwys cyfweliad gydag Isaias a chyfle i glywed ei stori.
Nid yw Isaias yn dod o dras Gymreig ond wedi symud i Drevelin, Patagonia dechreuodd fynychu dosbarthiadau Cymraeg yn Ysgol Gymraeg Yr Andes yn 15 mlwydd oed.
Bu yng Nghymru o’r blaen, yn 2006 ar ôl ennill ysgoloriaeth ac yna yn 2009 bu’n arsylwi yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog a mynychu cwrs iaith ddwys ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn y rhaglen hefyd cawn ddod i adnabod y tri dysgwr arall oedd ar y rhestr fer – Ashok Ahir, o Wolverhampton, Rhian Dickenson sy’n byw yn Y Fenni, a Mark Morgan sy’n byw ym Meisgyn.
Dywedodd Siân Jones, sy’n cyflwyno’r rhaglen gyda Matt Johnson, “Mae cystadleuaeth fel Dysgwr y Flwyddyn yn rhoi hwb a chydnabyddiaeth i ddysgwyr, sy’n bwysig yn enwedig i oedolion gan fod dysgu iaith yn anoddach pan rydych chi’n hŷn.”
Hwb: Dysgwr y Flwyddyn 2012, prynhawn Sul 12 Awst 5.05pm (Isdeitlau Cymraeg a Saesneg)
Gwefan Clic fb.com/hwbtv @HwbTV
