Rhwng 20 a 24 Awst bydd Heno yn dilyn taith gerdded elusennol Rhys Meirion er budd Ambiwlans Awyr Cymru. 

Yn ymuno ag o mae Gerallt Pennant, ac mi fydd yn adrodd yn fyw ar y rhaglen i sôn am ddigwyddiadau’r dydd. 

Mae’r daith yn dechrau yn Abertawe ar nos Wener 17 Awst. Byddan nhw’n cerdded i’r Trallwng ac yna i Gaernarfon, sef lleoliad tair canolfan Ambiwlans Awyr Cymru. 

 

Mae tipyn o sialens o dy flaen! Pam penderfynu cymryd rhan?  

Pan soniodd Rhys wrtha i am y daith gerdded roeddwn i’n gwybod yn syth y buaswn i’n hoffi ymuno ag o. 

Pan gafodd o’i ddewis yn llysgennad elusen Ambiwlans Awyr Cymru roedd o’n benderfynol o wneud rhywbeth mwy na bod yn wyneb i’r elusen, a dyna sut daeth y syniad ar gyfer taith gerdded. 

Wyt ti wedi gwneud her fel hyn o’r blaen?  

Bydda i’n mynd i gerdded bob penwythnos ond dwi erioed wedi gwneud y pellter yma o’r blaen. Hefyd, yn y mynyddoedd bydda i fel arfer yn cerdded ac mi alla i wneud hynny drwy’r dydd, ond mae meddwl am darmac dan draed yn achosi ychydig bach o fraw. 

Pwy sy’n cerdded gyda chi? 

Mae’r grŵp craidd yn cynnwys peilotiaid a pharafeddygon yr Ambiwlans Awyr, Owain Meirion sef mab Rhys a’i frawd yng nghyfraith Dr Dylan Parry. Ond mae croeso i bobl eraill ymuno bob dydd. 

Bydd Rhian ‘Madam Rygbi’ Davies hefyd yn cerdded yr holl ffordd. Mae hi’n siŵr o gadw’r wên ar ein hwynebau! 

Dwi wedi llwyddo i berswadio rhai o dîm Heno i ymuno â ni. Bydd Angharad Mair efo ni am ddiwrnod ac mae Elin Fflur am gerdded cymal. Mae Aneirin Karadog hefyd wedi awgrymu y byddai o’n licio ymuno. 

Ar ôl gorffen y daith, bydd Rhys Meirion yn teithio’n syth i berfformio ar y llwyfan Gŵyl Gobaith gyda’r soprano Hayley Westenra. Mae hynny’n dipyn o gamp! 

Bydd e’n cerdded cyfartaledd o 26 milltir y dydd ac wedyn yn mynd yn syth i berfformio mewn cyngerdd safonol, felly mae Rhys yn haeddu pob cefnogaeth a chymeradwyaeth. Mae’r cerdded ei hun yn ddigon o orchest heb sôn am fynd i berfformio wedyn! 

Ac mae’r cyfan ar gyfer achos da, wrth gwrs. 

Rhai blynyddoedd yn ôl, dwi’n cofio ffilmio eitem gyda gŵr a gafodd ei achub gan yr Ambiwlans Awyr. 

Roedd o wedi colli wyth peint o waed a heb yr hofrennydd fyddai o ddim wedi byw. Mae cwrdd â rhywun felly yn pwysleisio pa mor bwysig yw’r gwasanaeth yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. 

 

Mae rhagor o wybodaeth am y daith ar y wefan cerddwnymlaen.com. Yno mae modd cyfrannu at yr elusen a chofrestru i ymuno â’r daith gerdded.  

Mae hefyd gwybodaeth am y digwyddiadau sydd wedi eu trefnu ar ddiwedd y daith bob dydd yn cynnwys noson gyda Max Boyce, noson gomedi a cherddoriaeth gyda Tudur Owen ac Elin Fflur a pherfformiad gan Lucie Jones, un o gystadleuwyr cyfres cariad@iaith 2012.   

Heno, bob nos Lun i nos Wener 7.00pm, S4C 

Gwefan   Clic   fb.com/Heno-S4C   @henoS4C