Mae cyfres bêl-droed boblogaidd Sgorio yn dychwelyd ar ddydd Sadwrn 18 Awst. Morgan Jones fydd yn cyflwyno’r gêm fyw rhwng Port Talbot a Llanelli a’r uchafbwyntiau nos Lun.

 

Mae tymor pêl-droed arall ar fin dechrau. Ti’n edrych ymlaen?  

Ydw, yn arw. Rydyn ni wedi cael haf yn llawn pêl-droed eleni rhwng cystadleuaeth Euro 12 a’r Gemau Olympaidd, ond does dim byd tebyg na dechrau tymor newydd o bêl-droed. Mae’r cefnogwyr i gyd mor obeithiol a’r brwdfrydedd mor heintus. 

Lle y bydd Sgorio ar gyfer y gêm fyw gyntaf?  

Fe fydd y tîm yn Port Talbot ar gyfer eu gêm gyntaf nhw o’r tymor yn yr Uwch Gynghrair yn erbyn Llanelli. Rwy’n edrych ymlaen at ailafael ym mhethau hefo Dylan Ebenezer, Malcolm Allen, John Hartson, Dai Davies a gweddill y tîm. Mae’n argoeli bod yn dymor difyr iawn yn yr Uwch Gynghrair ac wrth gwrs bydd gennym ni’r gorau o gynghrair La Liga yn Sbaen a gemau cartref Wrecsam a Chasnewydd yn y Blue Square. 

Pwy aiff a hi yn yr Uwch Gynghrair y tro hwn?  

Y pencampwyr presennol Y Seintiau Newydd, yw’r ffefrynnau clir.  Maen nhw wedi cryfhau’r garfan ers y tymor diwethaf ac mae hynny’n rhybudd clir i’r gweddill. Ond ni allwn byth diystyruBangor, yn enwedig gan eu bod wedi cael amser i setlo bellach yn eu cae newydd yn Nantporth. 

Beth am y frwydr ar y gwaelod?  

Fe fydd y frwydr yn y gwaelod yn ddiddorol. Mae Caerfyrddin ac Airbus wedi cryfhau tipyn dros yr haf ac felly rwy’n credu mai’r hen ffyddloniaid, y Drenewydd, a’r newydd ddyfodiaid, Gap Cei Connah, fydd yn ei chael hi anodda’. 

Beth yw dy farn di am Uwch Gynghrair Cymru? 

Mae’n anodd coelio, ond mae Uwch Gynghrair Cymru yn ugain oed bellach. Mae’r cynghrair wedi gwella gryn dipyn dros y blynyddoedd – ond y datblygiad pwysica’ un oedd sefydlu cynghrair y 12 disglair ar ddechrau tymor 2010-11. Mae canolbwyntio ar ddwsin o glybiau a rhannu’r tabl yn ddau gynghrair o chwe thîm hanner ffordd trwy’r tymor yn golygu bod y frwydr am safleoedd, yn enwedig ar gyfer gemau Ewrop, yn parhau gydol y tymor. Mae hyn wedi codi’r safon a chynyddu’r cyffro. 

Dau ben-blwydd arbennig yr un tymor felly, gyda Sgorio yn dathlu 25 mlynedd o ddarlledu eleni?  

Ia, ac i ddathlu pen-blwydd y cynghrair, mae Sgorio mewnpartneriaeth â’r Cynghrair a’r Gymdeithas Bêl-droed wedi sefydlu Oriel yr Anfarwolion. Maen nhw’n annog cefnogwyr i gysylltu er mwyn enwebu’r chwaraewyr sydd wedi disgleirio fwyaf yn Uwch Gynghrair Cymru dros yr ugain mlynedd ddiwethaf. Caiff enwau’r ugain enw cyntaf yn yr Oriel eu datgelu ar Sgorio yn ystod y tymor. 

Sgorio: Port Talbot v Llanelli, Sadwrn 18 Awst 3.00pm

Sgorio, nos Lun 20 Awst 10.00pm

Gwefan   fb.com/sgorio   @sgorio