Dros y blynyddoedd, mae bywyd carwriaethol lliwgar Hywel Llywelyn wedi ennill enw iddo fel ‘Casanova‘r Cwm’, ond, ar wythnos ei briodas â Gaynor yn Pobol y Cwm, ydy hi’n bryd rhoi’r teitl hwnnw i gadw unwaith ac am byth?
Mae’r actor Andrew Teilo, sydd wedi chwarae rhan Hywel ers ugain mlynedd, yn trafod sut mae’r cymeriad wedi newid:
“Dwi’n petruso cyn dweud bod Hywel wedi newid yn gyfan gwbl, ac fel actor dwi’n gobeithio gwneith e byth achos ‘rwy wedi cael llawer o hwyl yn ei chwarae dros y blynyddoedd!
“Ond ‘rwy’n credu bod Hywel bellach yn rhoi pwyslais ar werthoedd gwahanol. Dwi ddim yn credu y gall llinyn cymeriad newid yn gyfan gwbl, ond fe all pobl drio newid drwy weld bai yn eu hymddygiad a thrio gwella eu hunain.”
Dydy Hywel na Gaynor ddim wedi bod yn gwbl ffyddlon i’w gilydd yn ystod eu carwriaeth. Cafodd Hywel affêr gyda Ffion, ei gyn-wraig, ac mae cwestiwn ai ef yw tad ei babi. Ar y llaw arall, fe gysgodd Gaynor gyda Macs, athro mathemateg ifanc yr ysgol a chyn gariad ei merch hi, Izzy. O ystyried hyn, oes gobaith i’r briodas weithio?
“Mae’r ddau gymeriad mewn oedran nawr lle maen nhw’n teimlo bod yn rhaid i’r briodas weithio. Mae mwy o symbyliad i wneud iddi weithio, yn enwedig gan fod y ddau wedi bod yn briod o’r blaen.
“Erbyn hyn, rwy’n credu bod agwedd Hywel tuag at briodas yn rhan o’r newid arwynebol sydd wedi digwydd iddo. Mae ‘da fe fwy o ymrwymiad i’r syniad o fod yn briod bellach ac mae’r tro yma yn golygu llawer mwy iddo.
“Hefyd, o ystyried y ffordd mae Hywel wedi trin rhai o’i gariadon yn y gorffennol, rwy’n credu ei fod e’n fwy tebygol o faddau i Gaynor am ei affêr hi a derbyn ei gair na fydd e byth yn digwydd eto.”
Gwraig gyntaf Hywel oedd Stacey Jones, merch ysgol tra roedd e’n athro arni. Ei ail wraig oedd Ffion, athrawes ymarfer corff, a nawr mae ar fin priodi Gaynor Evans, y brifathrawes!
“Mae’n saff dweud bod gan Hywel thing am ferched sydd i wneud ag ysgolion! Mae’n rhyfedd am mai un o’r storïau cyntaf ges i ar ôl ymuno â Pobol y Cwm oedd Hywel fel cyw athro yn cael affêr gyda’r brifathrawes!”
Yn y Deri noson cyn y briodas, mae tensiynau yn codi rhwng Hywel a Macs wrth i’r priodfab rannu jôc am ei ddarpar wraig. Draw yn Llwyncelyn, mae Gaynor yn rhannu moment emosiynol gyda’i chyn ŵr Colin.
Erbyn diwedd y noson mae Gaynor yn chwilio am gysur. Ond ai Hywel sydd ar ben arall y ffôn?
Wythnos y briodas ar Pobol y Cwm – Llun i Gwener, 20 i 24 Awst 8.00pm
