Fe fydd Rasus Tregaron yn symud i drac rasio Tairgwaith ar benwythnos 25 a 26 Awst – yn dilyn y penderfyniad i beidio â chynnal y rasus ar y safle arferol ar gaeau Dolyrychain oherwydd tywydd gwlyb yr haf hwn.
Ac mi fydd Rasus yn darparu darllediadau cynhwysfawr yn fyw o Rasus Tregaron yn Nhairgwaith ddydd Sadwrn a dydd Sul.
Fe fydd y cyfarfod sydd nawr ar drac trotian cyflyma’ Prydain yn cynnwys nifer helaeth o gystadlaethau arferol Gŵyl Rasus Tregaron.
Cynhelir y rasus i geffylau ifanc – y Ddraig Fach ac Iau Cymreig – yn ôl y drefn arferol, ac fe fydd fersiynau diwygiedig o rhagrasus a Ffeinal Cwpan Ystrad Fflur a Chlasur Cymru ddydd Sadwrn a dydd Sul.
Mi fydd tîm cyflwyno Rasus yno i gyd gan gynnwys Ifan Jones Evans, Dot Davies, Hywel Davies, Megan Taff, Wyn Gruffydd a Raymond Jenkins, ac fe fydd cyflwynydd gwreiddiol y gyfres, Dai Jones, hefyd yn dychwelyd ar gyfer penwythnos cyffrous o rasio harnes.
Mae hi wedi bod yn dymor anodd i rasio harnes yn gyffredinol gan fod y tywydd wedi bod mor wlyb – ac mae symud y rasus o drac porfa chwedlonol Dolrychain yn siom i ddilynwyr, gyrwyr a pherchnogion ceffylau trotian.
Ond er gwaetha’r siom, mae tîm Rasus yn ffyddiog y bydd cynnal y rasus ar drac caled cyffrous Tairgwaith ger Rhydaman yn llwyddiant.
Meddai cynhyrchydd Rasus, Geraint Lewis. “Yn naturiol, mae pawb yn siomedig bod y trefnwyr wedi gorfod symud Rasus Tregaron eleni. Ond mae’r penderfyniad bod yr Ŵyl yn mynd yn ei blaen er gwaetha’r elfennau, yn dangos penderfyniad rhyfeddol y trefnwyr a’r gymuned rasio trotian i gynnal yr ŵyl doed a ddelo.
“Fe fydd y prif rasus yn mynd yn eu blaen – er wrth gwrs y bydd y trac a’r her yn wahanol. Y neges fawr yw bod brand Rasus Tregaron yn goroesi, er gwaetha’r newid lleoliad ac nid dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd chwaith.
“Yn 2001 cynhaliwyd Rasus Tregaron ar drac Portmarnock ar gyrion Dulyn yn Iwerddon oherwydd clwy’r traed a’r genau, cyn dychwelyd i Dregaron y flwyddyn ganlynol. Rydym yn gobeithio y bydd y rasus yn ôl yn eu cartre’ yn 2013, ond am eleni, cawn ddathlu penwythnos mwya’r gamp yn Nhairgwaith ac yn fyw ar S4C.”
Rasus Tregaron o Dairgwaith, yn fyw dydd Sadwrn a Sul, 25 a 26 Awst, o 2.00pm
