Lois Jones yw cyflwynydd newydd y gyfres Dan Glo ar Stwnsh bob nos Wener am 6.00pm. 

Yn y rhaglen mae disgyblion ysgol yn cael eu carcharu mewn rhai o adeiladau hanesyddol eiconig Cymru gan y dihiryn Dan Glo

Nod y gêm yw ennill pum allwedd a dianc o’r adeilad, neu bydd Dan Glo yn eu cadw’n gaeth am byth. 

Yr adeiladau yn y gyfres yw Castell y Waun, Amgueddfa Caerfyrddin, Castell Penfro, Carchar Biwmares, Neuadd y Ddinas Caerdydd, Castell Penrhyn ger Bangor, Maenordy Llancaiach Fawr yng Nghaerffili ac Abaty Cwm Hir, ger Llandrindod. 

“Rydyn ni’n cael lot o hwyl yn ffilmio Dan Glo. Mae hi’n gallu bod yn oer ofnadwy wrth ffilmio ac mae rhai o’r adeiladau yn teimlo’n ddigon spooky! Pan roedden ni ym Maenordy Llancaiach Fawr roeddwn i a’r criw yn teimlo’n eitha’ ofnus ar adegau!” meddai Lois. 

“Ond mae’r cyfan yn ychwanegu at hwyl a theimlad y rhaglen wrth i ni drio dianc o afael Dan Glo!” 

Stwnsh: Dan Glo, bob dydd Gwener 6.00pm

Gwefan Stwnsh   Clic