Dros y misoedd diwethaf mae criw cyfres Y Lle wedi bod yn gwneud eu gorau glas i godi ofn ar Sara Manchipp, Miss Cymru 2011, gan osod nifer o sialensiau iddi.
Ar nos Iau 30 Awst am 10.00pm, bydd pob sialens anghyfforddus mae Sara wedi ei hwynebu yn cael ei dangos mewn un rhaglen arbennig.
Sut wnaeth hyn i gyd ddechrau?
Roedd Y Lle wedi gofyn i mi beth ro’n i’n casáu, a ‘nes i restru corynnod, uchder, mwd a phethe fel ‘na.
Beth ro’n i moyn gwneud oedd profi i fi fyhunany gallwn i wneud e a thrio dod dros rai o’r ofnau ‘ma. Ond, rwy’n credu beth roedden nhw ishe oedd gwneud i fi lefain – yn y ffordd neisa’ bosib wrth gwrs!
Wnaeth Y Lle lwyddo i godi ofn arnat ti?
Wnes i ddim llefain! Roedd y sialensiau yn rhy hawdd! Ro’n i’n poeni am afael yn y tarantela, ond doedd dim ofn un corryn arna i. Pe baen nhw wedi rhoi lot o gorynnod, falle byddai hynny wedi bod yn wahanol.
Bydd angen iddyn nhw drio’n galetach na hynny! Bring it on!
Ond y sialens olaf oedd y waethaf! Beth ddigwyddodd?
Roedd criw Y Lle wedi chwarae tric cas arna i gyda ffermwr blin, gwn ffug a phecyn o waed ffug.
Bydd yn rhaid i chi wylio’r rhaglen i weld beth ddigwyddodd, ond ro’n i’n crynu! ‘Do ni ddim yn gallu credu beth oedd yn digwydd!
Do’n i ddim wedi amau o gwbl eu bod nhw’n chwarae tric arna i. Ro’n i’n meddwl ‘mod i’n mynd i wneud sialens arall, rhywbeth i wneud gydag uchder fel bungee jump neu rywbeth. Ond na…
Y Lle, nos Iau 30 Awst 10.00pm
Gwefan Clic fb.com/yllearywe @yllearall
