Cystadleuaeth wedi cau
Enillwyr:
1af: Dylan Hughes, Gwynedd
2il: Meirion Wynne, Dinbych
3ydd: Richard Phillips, Llanelli
**
Gwyliwch Ffermio bob nos Lun am 8.25pm am y cyfle i chi ennill un o dri threlar Ifor Williams newydd sbon wrth i’r gyfres amaeth a chefn gwlad gyflwyno’r gystadleuaeth flynyddol boblogaidd.
Mae’r gyfres yn cynnig tri threlar gwerth dros £10,000. Yn wobr gyntaf mae trelar cludo anifeiliaid TA5 8 troedfedd to isel, gwerth £2,665; yn ail y trelar Eurolight gwerth £1,645; ac yn drydedd wobr, y trelar P6E gwerth £670.
Ar ddiwedd y rhaglen dros gyfnod o saith wythnos bydd y tîm yn cyflwyno cwestiwn gyda llythyren gyntaf pob ateb yn datgelu gair saith llythyren.
Anfonwch y gair hwn drwy’r post neu drwy’r ffurflen gais ar wefan Ffermio erbyn y dyddiad cau ar 21 Tachwedd.
Mae holl fanylion a rheolau’r gystadleuaeth ar wefan Ffermio.
