
Annog rhieni di-Gymraeg i ddysgu’r iaith wrth fwynhau rhaglenni Cyw gyda’u plant yw bwriad gwasanaeth arloesol newydd @TifiaCyw.
Yn ystod slot @TifiaCyw rhwng 7.00 ac 8.00 o’r gloch bob bore, gan ddechrau 1 Medi, bydd ffrwd Twitter @TifiaCyw yn cyd-fynd â’r rhaglen gan ddarparu geirfa, cyfieithiadau ac awgrymiadau i gyd-fynd â rhai o raglenni mwyaf poblogaidd Cyw.
Er na fydd unrhyw wahaniaeth i’w weld ar y sgrin deledu, drwy ddilyn y ffrwd drydar ar sgrin gyfrifiadur, tabled neu ffôn symudol bydd modd i rieni fwynhau gwers Gymraeg ysgafn wrth wylio.
Does dim rhaid bod yn aelod o Twitter i ddilyn @TifiaCyw Bydd modd cyrraedd y ffrwd drwy wefan Cyw yn ogystal.
Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Plant S4C, “Mae plant wrth eu boddau’n gwylio Cyw gyda’u rhieni. Ond mae dros hanner y plant sy’n gwylio’n rheolaidd yn dod o deuluoedd lle nad Cymraeg yw iaith y cartref.
”Bydd gwasanaeth newydd @TifiaCyw yn annog rhieni di-Gymraeg a dysgwyr i ymuno yn yr hwyl o wylio Cyw gyda’u plant ac yn cynnig cyfle i ddysgu’r iaith ar yr un pryd. Y gobaith yw rhoi hyder i rieni i ddefnyddio cynnwys Cymraeg a’u hannog i fynd ymlaen i ddysgu Cymraeg yn ffurfiol, os ydyn nhw eisiau.”
@TifiaCyw, dechrau ar 1 Medi, bob dydd rhwng 7 ac 8 y bore
