Does neb yn hapusach wrth ei waith na Trefor yn ei dacsi gwyn – ar wahân i’r actor Rhodri Meilir efallai …  

Sut buaset ti’n disgrifio Trefor? 

Buaswn i’n deud bod Trefor yn berson unig, ond heb iddo fo wybod hynny. Mae o wrth ei fodd yng nghwmni ei gwsmeriaid a hynny, am wn i, am nad oes ganddo ffrindiau ei hunan. 

Mae o’n hapus ei fyd, ac mewn ffordd mae o’n byw drwy straeon ei gwsmeriaid drwy fod yn glust i wrando. 

Ydi o’n gweld ei gwsmeriaid fel ffrindiau? 

Mae o’n caru ei waith gymaint. Mae o wrth ei fodd yn gweld nhw yn mwynhau, ac os oes ganddyn nhw broblemau mae’n gweld ei hun fel tipyn o ddyn doeth yn cynnig cyngor iddyn nhw. 

Dwi ddim yn meddwl bod ei gwsmeriaid i gyd yn gweld o fel ffrind, ar wahân i Vera, Leanne ac Alwyn. Maen nhw’n gymeriadau eitha’ unig ac maen nhw’n closio ato fo. I ddeud y gwir, dwi ddim yn meddwl bysa un o’r hogia’ yn licio cael eu gweld allan yng nghwmni Trefor. 

Oes ganddo ffefryn o blith ei gwsmeriaid? 

Mae pob cymeriad yn cynnig rhywbeth gwahanol. Mae o wrth ei fodd yng nghwmni’r genod, ac yn cael laff efo’r hogia, er eu bod nhw’n tynnu arno fo, mae o’n rhy ddiniwed i sylwi. 

Tydi o hefyd ddim yn sylwi pan mae Leanne yn fflyrtio efo fo. Dwi ddim yn meddwl fod Trefor yn gwybod be’ ydi fflyrtio hyd yn oed. Tydi o ddim yn gweld be sy o dan ei drwyn o, y cwbl mae o’n weld ydi’r llyw a’r ffordd. 

Ti’n meddwl bod y gwylwyr yn gallu uniaethu hefo Trefor?  

Mae pobol yn fwy tebygol o rannu stori ar ôl cael diod. Dyna ydi apêl y gyfres dwi’n meddwl achos dyma’r math o betha’ sy’n digwydd go iawn, yn enwedigpan mae pobl yn eu diod. Ond wedi dweud hynny, ges i siom ar yr ochr oraupan glywais fod cynifer o ffrindiau fy rhieni yn mwynhau’r rhaglen. A’r rheiny’n bobl capel!  

Wyt ti’n mwynhau gweithio ar y gyfres?

Achos bod o i gyd yn cael ei ffilmio tu mewn i’r tacsi mae o’n waith diddorol. Mae’n anhygoel gwylio’r criw wrth ei gwaith mewn gofod mor fychan. Mae’n teimlo fel cynhyrchiad arbennig a gyffrous oherwydd y gofynion ffilmio. 

Bu’n rhaid i Aled Davies Jones (cyfarwyddwr a gŵr camera) a Dafydd Hobson ddylunio offer camera newydd sbon er mwyn ffilmio yn y car, ond wna i ddim datgelu eu cyfrinachau. 

Dwi’n mwynhau actio, yn mwynhau gyrru ac yn mwynhau bod yng nghwmni pobl feddw felly mae o’r peth agosâ at baradwys ga’ i o ran gwaith! 

Gwlad yr Astra Gwyn, Nos Fercher 9.30

Darllen mwy   YouTube