Wrth wylio rhaglen newydd Y Lifft, ar Stwnsh bob dydd Mercher, bydd modd i ti hefyd chwarae’r gemau ar yr un pryd â’r cystadleuwyr yn y stiwdio.
Cer i wefan – www.ylifft.com – neu lawrlwytha’r ap newydd sydd bellach ar gael ar ddyfeisiau ffôn neu dabled.
Ar ddiwedd y gêm, bydd dy sgôr yn cael ei ychwanegu at sgorfwrdd Y Lifft a bydd y chwaraewyr ar frig y tabl ar ddiwedd y gyfres yn ennill gwobrau, gan gynnwys iPod Touch, offer gemau a thalebau iTunes.
