Yn 2013 bydd cyfres newydd o chwe rhaglen yn edrych ar yr her sy’n wynebu pobl ag anableddau yng Nghymru.
Yr athletwr James Lusted o Landrillo yn Rhos, Conwy, fydd yn cyflwyno, a bydd y cwmni cynhyrchu, Cwmni Da, yn dechrau ffilmio yn y Flwyddyn Newydd.
Mae’r athletwr 24 oed dim ond yn dair troedfedd saith modfedd o daldra, gan iddo gael ei eni â dysplasia diastrophic. Mae’r cyflwr prin yn effeithio ar un o bob 100,000 o fabanod.
Meddai James, sy’n gweithio’n bennaf fel actor a siaradwr cymhell pobl, “Roedd yr ymateb i’r rhaglen deledu O’r Galon yn dda iawn ac, o ganlyniad, fe ges i wahoddiad i gyflwyno’r gyfres yma.
“Bydd y camerau yn fy nilyn o amgylch y siopau, ar drafnidiath gyhoeddus ac wrth imi gwrdd â phobl eraill ag anableddau. Fe fydd hyn yn gyfle gwych i weld sut mae pobl ag anableddau gwahanol yn byw eu bywydau.
“Rwy’n gobeithio y bydd yn agoriad llygaid i bobl ac yn dangos y gallwn ni wneud beth mae pobl eraill yn ei ei wneud. Rydym ni’n gallu cael hwyl a dilyn ein breuddwydion hefyd.”
