
(Llun drwy garedigrwydd y Royal Welch Fusiliers Regimental Museum)
Bob nos Sul am 9.00pm mae Lleisiau’r Ail Ryfel Byd yn cofio blwyddyn wahanol o’r rhyfel drwy eiriau’r Cymry sy’n cofio.
Cawn glywed profiadau dros 50 o ddynion a menywod sydd bellach yn eu hwythdegau a’u nawdegau. Yn filwyr ar feysydd y gad ledled y byd, yn aelodau o’r Home Guard, yn weithwyr yn y Weinyddiaeth, yn ffermwyr neu’n land girls, yn siopwyr a gweithwyr ffatri, yn wragedd tŷ, yn blant o Gymru neu’n ifaciwis, cawn hanes y rhyfel trwy eu geiriau gonest nhw.
