O ganlyniad i newidiadau funud ola’ i’r amserlen, mae rhaglen Dudley yn Gwledda: Yr Wyddgrug wedi symud i nos Fercher 17 Hydref 9.00.
Ymunwch â Dudley Newbery i fwynhau cynnyrch yr ardal wrth iddo ymweld â Gŵyl Bwyd a Diod Yr Wyddgrug.
Ai dyma’r tro cyntaf i ti fynd i’r ŵyl?
Bues i mewn marchnad ffermwyr yn Yr Wyddgrug flynyddoedd yn ôl ac roedd llawer o gynnyrch da ar werth yno bryd hynny. Roeddwn i’n edrych ‘mlaen at weld beth sydd gan y dref i’w gynnig erbyn hyn.
Dyw’r ŵyl ddim yn cael yr amlygrwydd mwya’, ac mae’n braf cael mynd i rywle gwahanol ac i ardal sy’n cynhyrchu cymaint o fwydydd o ansawdd.
Byddi di hefyd yn ymweld ag ystâd y Rhug ger Corwen.
Yn ogystal â chynhyrchu amrywiaeth o gig organig, mae’r busnes wedi tyfu i gynnwys siop fferm sylweddol a chaffi sy’n gwerthu cynnyrch lleol o bob math, yn ogystal â’r siop gigydd benigamp.
Mae modd prynu pob math o bethau yma, a gallwch wneud eich siopabwyd i gyd mewn un man bron. Maen nhw hefyd yn gwerthu anrhegion a chrefftau Cymreig. Mae’n fusnes impressive iawn.
Pwy arall wyt ti’n galw i’w gweld?
Mae stori anhygoel i hanes cwmni Patchwork Pâté yn Rhuthun. Dechreuodd y cwmni ar fwrdd y gegin, ac er eu bod nhw wedi tyfu yn sylweddol erbyn hyn maen nhw’nparhau yn gwmni teuluol. Maen nhw hefyd yn deall pwysigrwydd gwerthu eu cynnyrch y tu allan i’r archfarchnadoedd – yn cynnwys yn yr ŵyl yn Yr Wyddgrug.
Dudley yn Gwledda: Yr Wyddgrug, Nos Fercher 17 Hydref 9.00
